Llwydfron Fach
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Sylviidae
Genws: Sylvia
Rhywogaeth: S. curruca
Enw deuenwol
Sylvia curruca
Linnaeus, 1758

Aelod o deulu'r Sylviidae yw'r Llwydfron Fach (Sylvia curruca). Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop, heblaw y de-orllewin, a gorllewin a chanolbarth Asia.

Mae'r Llwydfron yn aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica ychydig i'r de o'r Sahara, Arabia ac India. Adeiledir y nyth mewn llwyn, ac mae'n dodwy 3-7 wy. Mae'r ceilog a'r iar yn bur debyg i'w gilydd, gyda chefn llwyd, bol gwyn, pen llwyd gyda llinell ddu dros y llygad a gwddw gwyn.

Mae'r Llwydfron Fach yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, fel rheol mewn tir agored gyda llwyni, ond yn absennol o rai ardaloedd.