Llyffant y twyni

rhywogaeth o lyffantod
Llyffant y twyni
Oedolyn ger Badilla, Sbaen
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Amphibia
Urdd: Anura
Teulu: Bufonidae
Genws: Epidalea
Cope, 1864
Rhywogaeth: E. calamita
Enw deuenwol
Epidalea calamita
(Laurenti, 1768)
Cyfystyron

Bufo calamita

Llyffant a geir mewn twyni a rhostir yng ngorllewin a chanolbarth Ewrop yw llyffant y twyni (Epidalea calamita). Mae'r gwryw'n 5–6.5 cm o hyd ac mae'r fenyw'n 6–7.5 cm.[2] Mae ei groen yn frown, llwyd neu wyrdd gyda llinell felen ar hyd y cefn.[3] Mae'n bwydo ar chwilod a phryfed eraill fel rheol.[2]

Mae'n brin iawn yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Yng Nghymru, mae wedi cael ei ailgyflwyno i Dalacre a Gronant.[4]

Hanes yng Nghymru golygu

Prin iawn yw hanes y creadur hwn yng Nghymru er y gallwn yn hawdd ddychmygu iddo fod yma am ganrifoedd, yn ddiarwybod i neb, gan ei fod yn byw hyd heddiw yn nhwyni Ainsdale, Formby, Swydd Gaerhirfryn. Ond mae yna hen hanes o lyffantod y twyni yng Nghymru mewn lle ychydig yn annisgwyl, sef beddrod Barclodiad y Gawres ym Môn

Mae Barclodiad y Gawres yn feddrod ar ffurf croes gydag eithafion y groes yn perthyn i'r meirw a'r canol yn fan cyhoeddus. Yn y mannau dirgel, ar gyfer y meirw yn unig, y dyluniwyd delweddau haniaethol, ac yn y canol cyhoeddus yn 60au'r ganrif ddiwethaf daethpwyd o hyd i olion anifeiliaid na fyddai fyth yn cyd-ddigwydd yno yn naturiol. Dyma sut y disgrifiodd yr archeolegydd Frances Lynch y darganfyddiadau ym mhridd y beddrod:

“Ni chafodd y canol ei ddefnyddio i gladdu, ond yn hytrach ar gyfer defodau. Cynheuwyd tân yng nghanol y llawr a thra roedd yn mudlosgi arllwyswyd dogn o lobsgóws drosto, cyn ei ddiffodd gyda haen o gerigos a chregyn maharen. Adnabyddid cynhwysion y lobsgóws, o'r mân esgyrn yn y pridd, fel gwrachen, yslywen, gwyniad môr, llyffant, llyffant dafadennog, llyffant y twyni (natterjack), neidr y gwair, llygoden, llyg ac ysgyfarnog".

Gwrachod Shakespeare a anfarwolodd ddefod debyg ym Macbeth a T. Gwynn Jones gyfieithodd eu llafargan i ni i’r Gymraeg:

Llyffant fu dan garreg oer,
Fis ynghwsg yn magu poer,
Llysnafeddog wenwyn bryntaf,
Berwer di'n y pair yn gyntaf....
Dwbwl, dwbwl drin a thrwbwl,
Llosged tân i ferwi'r cwbl”.[5][6].

Cyfeiriadau golygu

  1. Beja, P. et al. (2008) "Epidalea calamita". IUCN Red List of Threatened Species, Fersiwn 2011.1. International Union for Conservation of Nature. Adalwyd 19 Awst 2011.
  2. 2.0 2.1 Inns, Howard (2009) Britain's Reptiles and Amphibians, Wildguides, Hampshire.
  3. Arnold, Nicholas & Denys Ovendon (2004) A Field Guide to the Reptiles and Amphibians of Britain and Europe, Collins, Llundain.
  4. Cyngor Cefn Gwlad Cymru: Llyffant y twyni[dolen marw]. Adalwyd 17 Tachwedd 2012.
  5. Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn Y Cymro
  6. Llên Natur Bwletin 11, tud. 11
 
Penbyliaid
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am amffibiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.