Llyfrgell Gladstone

llyfrgell ym Mhenarlâg

Llyfrgell yn Sir y Fflint, Cymru yw Llyfrgell Gladstone, ynghynt Llyfrgell Deiniol Sant; hon yw'r llyfrgell breswyl fwyaf yng ngwledydd Prydain. Fe'i lleolir ym Mhenarlâg, Sir y Fflint. Fe'i sefydlwyd gan y gwleidydd a gwladweinydd William Ewart Gladstone. Yn dilyn ei farwolaeth ym 1898 datblygodd Llyfrgell Deiniol Sant yn deyrnged i'w fywyd a'i waith. Fe'i henwir yn wreiddiol ar ôl Sant Deiniol, nawddsant eglwys plwyf Penarlâg ac esgob cyntaf Bangor.

Llyfrgell Gladstone
Mathadeilad llyfrgell, llyfrgell, sefydliad elusennol, writing residency Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
LleoliadPenarlâg Edit this on Wikidata
SirPenarlâg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr76 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1859°N 3.02729°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ3128865962 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganWilliam Ewart Gladstone Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes sefydlu'r llyfrgell golygu

 
Tu fewn i'r llyfrgell

Bu Gladstone yn fyfyriwr ac yn ysgolhaig, yn ddarllenydd brwd ac yn gasglwr llyfrau, drwy gydol ei oes ac mae ei lyfrgell yn adlewyrchu ystod eang ei ddiddordebau.

Creadigaeth Gladstone ei hun oedd y llyfrgell. Mab ydoedd i fasnachwr a chymwynaswr cefnog yn Lerpwl, a phan oedd yn fachgen ifanc cyflwynodd yr awdures Hannah More gopi o'i Sacred Dramas iddo; a dyna ddechrau ar ei gasgliad. Casglodd lyfrau tra yn Eton a thyfodd ei gasgliad yn sylweddol yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen. Tra oedd yn Rhydychen, enillodd radd dosbarth cyntaf dwbl yn y Clasuron a Mathemateg a gradd dosbarth cyntaf arall yn un o'r pynciau a oedd wrth fodd ei galon, sef Hanes.

Cafodd yrfa wleidyddol o 63 blynedd gyda'r Rhyddfrydwyr, gan gynnwys pedwar cyfnod yn brif weinidog y DU. Yn ystod y blynyddoedd hynny cadwodd gofnod manwl o'i lyfrau ac mae mynych gyfeiriadau yn ei ddyddiaduron at y siopau a'r catalogau y bu'n chwilota ynddynt yn ogystal â'r llyfrau a ddarllenai yn ei fyfyrgell yng Nghastell Penarlâg, yr ystafell a alwai yn “Deml Heddwch”. Wrth fynd yn hŷn dechreuodd ystyried y posibilrwydd o sicrhau fod ei lyfrgell bersonol ar gael i eraill.

"Byddai'n aml yn ystyried," ysgrifennodd ei ferch, Mary Drew, "sut oedd dod â darllenwyr oedd heb lyfrau a llyfrau oedd heb ddarllenwyr at ei gilydd. Yn raddol datblygodd y syniad yn gynllun ar gyfer cyflwyno ei lyfrgell fel Canolfan Bywyd Cristnogol mewn cartref gwledig. Hyn oll er hyrwyddo ymchwil a dysg ddwyfol."

Sylweddolodd Gladstone y byddai'r llyfrau ar ddiwinyddiaeth a'r Dyniaethau o werth mawr i holl aelodau’r Eglwys Gristnogol o ba enwad bynnag ar gyfer yr hyn a alwai'n "ddysg ddwyfol". Ond dymunai roi cyfle i fyfyrwyr yn y Dyniaethau o grefyddau eraill y byd, yn ogystal â'r rhai heb grefydd, gael defnyddio’r llyfrgell hefyd. Roedd angen llety ar y darllenwyr potensial hyn i ddarllen a chael amser i fyfyrio ac astudio o fewn cymuned ysgolheigaidd. Hynny yw, roedd angen eu "Teml Heddwch" eu hunain arnynt.

Dechreuwyd gwireddu’r weledigaeth hon ym 1889 pan godwyd dwy ystafell fawr haearn, wedi'u leinio â ffelt a phin gyda 6 neu 7 alcof y gellid eu defnyddio'n ystafelloedd astudio. Cafwyd gafael ar dŷ cydffiniol er mwyn darparu "llety rhad ynghyd â chymdeithas gydnaws i eneidiau hoff cytûn."

Ac yntau dros ei bedwar ugain, ymgymerodd Gladstone ei hun â'r dasg o gludo 32,000 o'i lyfrau i'w cartref newydd. Gyda chymorth gwas ac un o'i ferched, symudwyd y rhan fwyaf o'r llyfrau mewn berfa – roedd dros chwarter milltir rhwng myfyrgell Gladstone a'r llyfrgell. "Pa ddyn, sydd wir yn caru ei lyfrau, a fyddai'n dirprwyo’r gwaith o'u cyflwyno i'w cartref newydd i berson arall cyhyd ag y bo anadl yn ei gorff," meddai.

Cam cyntaf yn unig yn y broses o wireddu ei uchelgais i greu llyfrgell breswyl oedd yr adeilad dros dro. Trafododd ei obeithion gyda'i deulu a'r Ymddiriedolwyr a apwyntiwyd i ofalu am y casgliad. Rhoddodd £40,000 i’r llyfrgell, sy'n dangos nad hobi ymylol oedd hyn – dyma oedd ei brif gymynrodd.

Wedi ei farwolaeth yn 1898, lansiwyd apêl gyhoeddus i ariannu codi adeilad a fyddai'n gartref teilwng i'r casgliad ac i gymryd lle'r adeilad dros dro. Gyda'r £9,000 a gasglwyd codwyd adeilad wedi'i gynllunio gan John Douglas. Agorwyd y llyfrgell newydd yn 1902, yn "Gofeb Genedlaethol i W. E. Gladstone". Agorwyd yr asgell breswyl yn 1907. Teulu Gladstone ei hun fu'n gyfrifol am ariannu'r estyniad a thrwy hyn greu'r sefydliad unigryw hwn.

Ar hyd y blynyddoedd bu'r llyfrgell yn casglu llyfrau a adlewyrchai brif ddiddordebau Gladstone. Bellach mae'n gartref i 200,000 o gyfrolau ar Ddiwinyddiaeth a Hanes, ynghyd â deunyddiau sylfaenol ar Athroniaeth, y Clasuron a Llenyddiaeth. Ceir hefyd gasgliadau llawysgrif o tua 250,000 eitem sy’n cynnwys llawer o ohebiaeth Gladstone.

Dyddiadau arwyddocaol golygu

 
Cerflun o Gladstone yng ngerddi'r Llyfrgell
  • 1889 - Y Llyfrgell Haearn.
  • 1894 - Yr Hostel cyntaf i’r myfyrwyr yn y tŷ cydffiniol.
  • 1898 - Marwolaeth Gladstone.
  • 1899 - Torrwyd y dywarchen gyntaf gan Catherine, gweddw Gladstone, a gosodwyd y maen cyntaf gan Ddug San Steffan ar ran y pwyllgor coffa cenedlaethol.
  • 1902 (14 Hydref) - Agoriad swyddogol Llyfrgell Deiniol Sant. Lleiafswm o £300 y flwyddyn (£15,000) i’w wario ar lyfrau.
  • 1903 - Dechrau ar yr asgell breswyl. Y teulu oedd yn gyfrifol am yr holl gostau.
  • 1908 (3 Ionawr) - Agoriad swyddogol yr asgell breswyl.
  • 2010 - Newid enw o Lyfrgell Deiniol Sant i Lyfrgell Gladstone.

Ffynhonnell golygu

  • Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o Llyfrgell Gladstone: Braslun o'r Hanes [Heb Hawlfraint arno].

Dolen allanol golygu