Mae Llyn Cerrig Bach yn llyn bychan yng ngogledd-orllewin Ynys Môn, gerllaw maes awyr RAF y Fali a heb fod ymhell o bentref Caergeiliog. Mae'n rhan o gymuned Llanfair-yn-Neubwll. Mae'n adnabyddus oherwydd i nifer fawr o eitemau o Oes yr Haearn gael eu darganfod yno yn 1942; i bob golwg wedi eu rhoi yn y llyn fel offrymau. Ystyrir y rhain ymysg y casgliadau pwysicaf o gelfi La Tène yn Ynysoedd Prydain.

Llyn Cerrig Bach
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.25885°N 4.540289°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Cerrig Bach

Archaeoleg golygu

Gwnaed y darganfyddiad gan William Owen Roberts pan oedd y tir yn gael ei glirio i ymestyn y maes awyr i'r Awyrlu Brenhinol ger Y Fali yn 1942. Roedd mawn yn cael eu gasglu er mwyn ei daenu dros y tir tywodlyd, a chafwyd hyd i'r celfi wrth gasglu mawn o Gors yr Ynys ar lan ddeheuol Llyn Cerrig Bach. Y peth cyntaf i'w ddarganfod oedd cadwyn haearn, wedi ei bwriadu ar gyfer caethweision. Nid oedd neb yn sylweddoli fod y gadwyn yn hen, ac fe'i defnyddiwyd i dynnu lorïau o'r mwd gyda thractor. Er ei bod tua 2,000 o flynyddoedd oed, gallodd wneud y gwaith yma heb broblemau.

 
Torch aur o'r llyn

Pan sylweddolwyd oed y gadwyn, chwiliwyd am gelfi eraill, a chafwyd hyd i nifer fawr ohonynt. Roedd y rhan fwyaf yn waith haearn ond roedd rhai celfi efydd hefyd. Cafwyd hyd i gyfanswm o 181 o gelfi. Maent yn cynnwys cleddyfau, pennau gwaywffon, tariannau, darnau o gerbydau a harnes ceffylau, cadwyn arall ar gyfer caethion a gwahanol gelfi. Roedd rhai barau haearn, oedd efallai yn cael eu defnyddio fel arian.

Roedd llawer o'r eitemau hyn wedi eu torri'n fwriadol, a chredir eu bod wedi eu rhoi yn y llyn fel offrymau. Gwaith lleol oedd rhai o'r celfi, roedd rhai wedi eu gwneud yn Iwerddon, ond roedd llawer ohonynt wedi eu gwneud yn ne Lloegr. Efallai fod Llyn Cerrig Bach yn safle mor sanctaidd ac enwog fel bod llwythau pellenig yn gyrru offrymau. Ar y llaw arall, efallai fod y bobl leol wedi eu cael y celfi hyn trwy fasnach neu wedi eu cipio fel ysbail rhyfel. Mae'r eitemau yn dyddio o'r cyfnod rhwng yn 2g cyn Crist hyd o gwmpas dyfodiad y Rhufeiniaid.

Pan ymosododd byddin Rufeinig dan Gaius Suetonius Paulinus ar Ynys Môn yn O.C. 60 neu 61, yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Tacitus roedd yr ynys yn ganolfan bwysig i'r Derwyddon. Efallai fod rhai o'r offrymau yn ymateb i fygythiad y Rhufeiniaid. Nid oes arwydd o ddylanwad Rhufeinig uniongyrchol ar yr un o'r eitemau. Gellir gweld y rhan fwyaf ohonynt yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Cyril Fox (1945). A find of the early Iron Age from Llyn Cerrig Bach, Anglesey: interim report (Amgueddfa Genedlaethol Cymru).
  • Frances Lynch (1970). Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwy Môn).

Cyfeiriadau golygu