Llyn yn Sir Conwy, gogledd Cymru, yw Llyn Cowlyd. Fe'i lleolir yng ngogledd Eryri yn rhan ddeheuol y Carneddau, ar uchder o 1165 troedfedd uwchben lefel y môr.

Llyn Cowlyd
Llyn Cowlyd o Fwlch Cowlyd.
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.13°N 3.92°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganRWE Generation UK PLC Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Mae'n llyn hir, cul, sydd ar echel o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain. Ei hyd yw tua 3 km. Mae'n gronfa dŵr gydag argae yn ei ben gogleddol, sy'n cyflenwi dŵr i ardaloedd Conwy ac mor bell i ffwrdd â Bae Colwyn. Gorwedd y llyn rhwng Pen Llithrig-y-wrach (2622') i'r gorllewin a'r Creigiau Gleision i'r dwyrain. Mae Bwlch Cowlyd yn gorwedd rhwng y ddau fynydd hyn, uwch ben de-orllewinol y llyn. Mae'r llethrau o bobtu i Lyn Cowlyd yn syrth a garw. O ben gogleddol y llyn mae Afon Ddu yn rhedeg o lifddor yr argae i lawr i Ddyffryn Conwy a phentref Dolgarrog.

Roedd Llyn Dulyn yn un o'r llynnoedd y symudwyd y torgochiaid oedd yn Llyn Peris iddynt pan adeiladwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig.

Cafodd y bardd Gwilym Cowlyd (William John Roberts, 1828-1904) ei enw barddol ar ôl y llyn.

Mae modd cyrraedd y llyn ar droed o Drefriw neu o Gapel Curig.


Gweler hefyd golygu