Mae Llyn Elsi yn llyn uwchben pentref Betws y Coed yn sir Conwy. Fe'i defnyddir fel cronfa i gyflenwi dŵr i'r pentref.

Llyn Elsi
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.08°N 3.8183°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganAllied Hydro Power Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Gellir cyrraedd y llyn trwy ddilyn y trac sy'n cychwyn gerllaw Eglwys y Santes Fair ym Metws y Coed. Mae llwybr yn amgylchynu'r llyn, a gan ei fod yn weddol uchel, tua 700 troedfedd, gellir cael golygfeydd rhagorol o Moel Siabod, y Carneddau a'r Glyderau. Yn wreiddiol roedd dau lyn bach yma, Llyn Rhisgog a Llyn Enoc, ond yn 1914 adeiladwyd argae 20 troedfedd i greu un llyn mwy. Mae cofgolofn ar ochr ogleddol y llyn yn cofnodi fod Arglwydd Ancaster wedi rhoi caniatâd i adeiladu'r argae a defnyddio'r llyn fel cronfa ddŵr. Ceir brithyll yn y llyn, a gall y coed o'i amgylch fod yn lle da am adar, yn enwedig y Gylfin Groes.