Llyn Goddion Duon

llyn yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Llyn Goddionduon)

Llyn yng Nghoedwig Gwydyr yn sir Conwy yw Llyn Goddion Duon (neu Llyn Goddionduon). Saif 794 troedfedd uwch lefel y môr, ac mae ganddo arwynebedd o 10 acer. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r llynnoedd yng Nghoedwig Gwydyr, mae'n lyn hollol naturiol, ac nid oes argae yno.

Llyn Goddion Duon
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.11°N 3.8636°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyfoeth Naturiol Cymru Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae ystyr yr enw yn dipyn o ddirgelwch, gan nad oes eglurhad o'r gair "Goddion". Yn ôl rhai ffynonellau, "Llyn y Goeden" oedd yr enw gwreiddiol, a chamgymeriad ar fap a greodd yr enw "Goddionduon".

Llyn Goddionduon o ben Creigiau Gleision.

Ceir brithyll yma, a rheolir y pysgota gan Glwb Pysgota Betws y Coed.

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Roberts 'The Lakes of Eryri, (Gwasg Carreg Gwalch, 1985)