Llyn Idwal

llyn bychan yng Nghwm Idwal, Eryri, Cymru

Mae Llyn Idwal yn llyn bychan gydag arwynebedd o 28 erw (tua 800 medr wrth 300 m) ynghanol Cwm Idwal yn y Glyderau yng ngogledd Cymru. Mae'r llyn ei hun yng Ngwynedd, ond mae'r ffin â sir Conwy yn dilyn glan ddwyreiniol y llyn. O gwmpas y llyn mae nifer o fynyddoedd, yn cynnwys Glyder Fawr ac Y Garn. Ym mhen gogleddol y llyn mae creigiau Trigyfylchau, sy'n cynnwys y Twll Du neu Gegin y Diafol - hollt twfn yn y clogwyn rhwng Glyder Fawr a'r Garn. Mae'r afon fechan sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i Afon Ogwen.

Llyn Idwal
Llyn Idwal o'r Garn
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1158°N 4.0256°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion

Tarddiad yr enw golygu

Yn ôl traddodiad, rhoddodd Tywysog Gwynedd, Owain Gwynedd un o'i feibion, o'r enw Idwal, yng ngofal gŵr o'r enw Nefydd Hardd. Roedd mab Nefydd ei hun, Dunawd, yn genfigennus o Idwal, ac un diwrnod gwthiodd ef i'r llyn a'i foddi.

Cafodd hostel ieuenctid yn yr ardal ei henwi Idwal Cottage.

Dolen allanol golygu