Llyn yng ngorllewin Ewrop yw Llyn Léman neu Llyn Genefa (Ffrangeg: Lac Léman). Mae'n debyg bod yr enw "Léman" o darddiad Celtaidd, trwy'r enw Lladin lacus Lemanus.

Llyn Léman
Mathglacial lake, llyn Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGenefa Edit this on Wikidata
LL-Q150 (fra)-Eihel-Léman.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirValais, Genefa, Vaud, Haute-Savoie Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd581.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr372 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.45°N 6.55°E Edit this on Wikidata
Dalgylch7,395 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd73 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddJura, Chablais Massif, Vaud and Freiburger Prealps Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion
Golygfa o Épesses tua'r gorllewin

Saif ar y ffîn rhwng y Swistir a Ffrainc. Llifa Afon Rhône i mewn iddo yn y dwyrain ac allan yn y gorllewin. Mae'n 72.8 km o hyd, gydag arwynebedd o 582.4 km² a dyfnder o 309.7 medr yn y man dyfnaf. Mae'r lan ddeheuol yn département Haute-Savoie yn Ffrainc, a'r lan ogleddol wedi ei rhannu rhwng tri canton yn y Swistir, Genefa, Vaud a Valais. Ymhlith y dinasoedd ar ei lannau mae Genefa, Lausanne, Montreux, Villeneuve, Saint-Sulpice Évian-les-Bains, Lutry, Cully ac Yvoire. Ar ynys yn y llyn mae Castell Chillon.

Yn 58 CC, curwyd byddin Rufeinig gan fyddin o Helvetiaid dan arweiniad Divico ger y llyn.

Map o ardal Llyn Léman