Llyn yng nghanolbarth y Swistir yw Llyn Lucerne (Almaeneg: Vierwaldstättersee, "Llyn y pedwar canton fforest"). Ef yw'r pedwerydd llyn yn y Swistir o ran maint, gydag arwynebedd o 114 km² a dyfnder mwyaf o 214 m. Saif mewn ardal fynyddig, 434 m (1,424 troedfedd) uwch lefel y môr. O'i gwmpas mae nifer o gopaon adnabyddus megis Mynydd Rigi a Mynydd Pilatus.

Llyn Lucerne
Mathllyn, area not part of a municipality of Switzerland Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLucerne, Waldstätte Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirUri, Lucerne, Obwalden, Schwyz, Nidwalden Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Swistir Y Swistir
Arwynebedd113.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr434 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.0194°N 8.4011°E Edit this on Wikidata
Dalgylch1,831 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd30 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddAlpau Edit this on Wikidata
Map

Daw'r enw Almaeneg o'r ffaith ei fod yn ffinio ar dri chanton gwreiddiol y Swistir, Uri, Schwyz ac Unterwalden (sy'n awr wedi ei rannu yn hanner cantonau Obwalden a Nidwalden), a chanton Lucerne. Ar ei lan mae trefi hanesyddol megis Küssnacht, Weggis, Vitznau, Gersau, Brunnen ac Altdorf, a'r Rütli, lle sefydlwyd conffederasiwn y Swistir gyntaf yn ôl traddodiad.

Llifa afon Reuss trwy'r llyn, gan ei adael ger dinas Lucerne.

Golygfa o Lyn Lucerne o Weggis