Llyn yn ne-ddwyrain Affrica yw Llyn Malawi (weithiau Llyn Nyasa). Ef yw'r trydydd llyn yn Affrica, a'r nawfed yn y byd, o ran arwynebedd, a'r ail ddyfnaf yn Affrica. Saif rhwng Malawi, Mosambic a Thansanïa.

Llyn Malawi
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLake Malawi National Park, Llynnoedd Mawr Affrica, Rift Valley lakes Edit this on Wikidata
GwladMalawi, Mosambic, Tansanïa Edit this on Wikidata
Arwynebedd29,600 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr474 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaChintheche Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.1833°S 34.3667°E Edit this on Wikidata
Dalgylch6,593 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd570 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Llyn hir a chul yw Malawi; rhwng 560 a 579 km o hyd a 75 km o led yn ei fan lletaf. Yn ei fan dyfnaf, mae'n cyrraedd dyfnder o 709 medr. Ceir mwy o rywogaethau o bysgod yn y llyn yma nag yn unrhyw lyn arall yn y byd. Ceir dwy ynys a phoblogaeth arnynt yn y llyn, Likoma a Chizumulu, y ddwy yn perthyn i Malawi.

Y brif afon sy'n llifo i mewn iddo yw afon Ruhuhu, ac mae afon Shire yn llifo allan, i ymuno ag afon Zambezi. Enwyd ef yn Lyn Nyasa gan David Livingstone, yr Ewropead cyntaf i gyrraedd y llyn, yn 1859. Ym Malawi gelwir ef yn Llyn Malawi, ond mae Tansanïa yn defnyddio "Llyn Nyasa". Mae rhywfaint o anghytunbeb rhwng Malawi a Thansanïa am union leoliad y ffîn rhwng y ddwy wlad ar draws y llyn.

Llun lloeren o Lyn Malawi