Llyn dŵr croyw yn Tibet, sy'n gorwedd tua 2,000 km i'r gorllewin o Lhasa, yw Llyn Manasarovar neu Lyn Manasa Sarovar (Hindi: मानसरोवर झील; Tibeteg: མ་ཕམ་གཡུ་མཚོ།, Mapham Yutso; Tsieineeg Clasurol: 瑪旁雍錯; Tsieineeg Ddiweddar: 玛旁雍错). I'r gorllewin o Lyn Manasarovar ceir Llyn Rakshastal ac i'r de ceir mynydd sanctaidd Kailash; fel Kailash, mae Llyn Manasarovar yn lle sanctaidd i Fwdhyddion Tibet a Hindwiaid.

Llyn Manasarovar
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad[[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad Tibet|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad Tibet]] [[Nodyn:Alias gwlad Tibet]]
Arwynebedd395 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4,556 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.6667°N 81.5°E Edit this on Wikidata
Hyd27.7 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd Manasarovar ar uchder o 4,556 m (14947 troedfedd), sy'n ei wneud yn un o'r llynnoedd uchaf yn y byd. Mae o ffurf weddol grwn gyda chylchedd o 88 km, dyfnder o 90 m ac arwynebedd o 320 km². Mae'r llyn yn rhewi'n galed yn y gaeaf. Fe'i cysylltir â Llyn Rakshastal gan sianel naturiol y Ganga Chhu. Mae tarddleoedd Afon Sutlej, Afon Brahmaputra, Afon Indus, ac Afon Karnali (Ghaghara) i gyd yn gorwedd ger y llyn.

Mae'n lle pwysig ym mytholeg Hindŵaeth. Cafodd ei greu gan Feddwl Brahma, yn ôl y chwedl. Ystyr y gair Sansgrit manasarovar yw "Llyn y Meddwl" (manas "meddwl" + sarovara "llyn").

Mae'n gyrchfan pererindod ers cyn cof, gyda phererinion o Dibet ac India yn ymweld â'r llyn wrth gylchu Kailash. Ers i Tsieina feddiannu Tibet yn y 1950au dim ond nifer fechan o bererinion sydd wedi cael y fraint o deithio yno.

Llyn Manasarovar o Chiu Gompa
Eginyn erthygl sydd uchod am Dibet. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato