Llyn Melynllyn

cronfa ddŵr, Caerhun

Llyn bychan yn y Carneddau, Eryri, yw Llyn Melynllyn (cyfeiriad grid SH702657). Mae'n gorwedd fymryn dan 2000 troedfedd i fyny, ac mae ganddo arwynebedd o 18.5 erw.

Llyn Melynllyn
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerhun Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1722°N 3.9442°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Cyfyd clogwynni Craig-fawr yn syrth o'i lan orllewinol i gopa Foel Grach.

Codwyd argae fechan yn ei ben gogleddol yn 1887, ond cafodd hyn ei dryllio'n fwriadol yn 1970. Mae'r llyn yn gronfa dwr ar gyfer ardal Llandudno.

Llai nag 1 km i'r gogledd dros ysgwydd greigiog sy'n ymwthio o brif gadwyn y Carneddau ceir Llyn Dulyn.

Mae Afon Melynllyn yn llifo o'r llyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i ymuno'n fuan ag Afon Dulyn, sydd yn ei thro yn llifo i Afon Conwy.

Ceir olion hen waith chwarel i'r de o'r llyn ar lethrau y Gledrffordd, sy'n gorwedd rhwng Melynllyn a Chwm Eigiau.

Ffynhonnell golygu

  • The Lakes of Eryri, gan Geraint Roberts, Gwasg Carreg Gwalch, 1985