Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Superior (Saesneg: Lake Superior, Ojibweg: Gichigami). Mae'n un o lynnoedd mwyaf y byd, efallai y mwyaf o ran arwynebedd os ystyrir fod Môr Caspia yn fôr yn hyrach na llyn, ac os ystyrir fod Llyn Michigan a Llyn Huron yn ddau lyn yn hytrach nag un. Mae cysylltiad cul rhwng y ddau lyn yma, felly mae llawer yn eu hystyried yn un llyn. Mae Llyn Baikal a Llyn Tanganyika yn cynnwys mwy o ddŵr.

Llyn Superior
Mathglacial lake, rift lake, llyn Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaKeweenaw Waterway Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Llynnoedd Mawr, y ffin rhwng Canada ac UDA Edit this on Wikidata
SirMichigan, Ontario, Wisconsin, Minnesota Edit this on Wikidata
GwladCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Arwynebedd82,350 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr183 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.5288°N 87.76°W Edit this on Wikidata
Dalgylch207,200 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd563 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Saif Llyn Superior ar y ffîn rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Ontario, Canada, a Minnesota, Unol Daleithiau, ac yn y de mae'n ffinio ar Wisconsin a Michigan yn yr Unol Daleithiau. Mae ei arwynebedd yn 82,400 km2, a'i hyd yn 560 km. Llifa dros 200 o afonydd i'r llyn; yn eu plith Afon Nipigon, Afon Sant Louis ac Afon Brule, tra mae Afon St Mary yn llifo allan. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Isle Royale.

Lleoliad Llyn Superior
Llun lloeren o Lyn Superior