Llyn yn nwyrain Twrci yw Llyn Van (Twrceg: Van Gölü). Ef yw llyn mwyaf y wlad, gydag arwynebedd o 3755 km2. Mae'n 119 km ar draws yn y man lletaf, gyda dyfnder o 451 medr yn y man dyfnaf, a saif 1,640 medr uwch lefel y môr. Mae nifer o afonydd a nentydd bychain yn llifo i mewn iddo, ond nid oes yr un afon yn llifo allan. O ganlyniad, mae ei ddyfroedd yn hallt.

Llyn Van
Mathllyn hallt, atyniad twristaidd, soda lake, tectonic lake Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirVan, Talaith Bitlis Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd3,755 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,640 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.6333°N 42.8167°E Edit this on Wikidata
Dalgylch12,500 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd120 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn, yn cynnwys Ynys Akhtamar, Çarpanak Adası, Adır Adası a Kuş Adası. Mae'r trefi ar ei lan yn cynnwys Van, Tatvan, Ahlat ac Erciş.

Ynys Akhtamar a'r eglwys Armenaidd