Llywelyn Goch ap Meurig Hen

bardd

Bardd Cymraeg a ganai yn ail hanner y 14g oedd Llywelyn Goch ap Meurig Hen (neu Llywelyn Goch Amheurig Hen) (c. 1330 - c. 1390). Erbyn heddiw fe'i cofir yn bennaf fel awdur y farwnad adnabyddus a ganodd pan fu farw Lleucu Llwyd. Er ei fod yn cyfeirio at Lleucu fel ei gariad, mae'n sicr mai confensiwn barddonol yn unig yw hynny, er mwyn dwysau'r golled, ac mae'n benthyg ei hun yn arbennig i'r dull serenâd a fabwysiedir yn y cywydd.

Llywelyn Goch ap Meurig Hen
Ganwyd1330s Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1390 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1360 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Yn ôl yr achau, roedd Llywelyn Goch yn fab i Feurig Hen ab Ynyr ap Meurig ap Madog ap Cadwgon ap Madog ap Cadwgon ap Bleddyn ap Cynfyn, ac felly o dras barchus iawn. Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei farwnad enwog i Leucu Llwyd o Bennal, Meirionnydd. Roedd Llywelyn ei hun yn frodor o Feirionnydd ac yn gysylltiedig â theulu Nannau yn y sir honno (plwyf Llanfachreth, ger Dolgellau). Mae tystiolaeth un o'i gerddi yn awgrymu ei fod yn byw 'uwch Afon Dyfi' yn ne'r sir. Bu'n briod i Dangwystl ferch Adda ap Llowdden. Cawsant ddau fab, Meurig a Hywel Goch, ac un ferch (ddienw).[1]

Awgrymodd Saunders Lewis fod Llywelyn a'i gyfaill a chyd-fardd Iolo Goch yn arloeswyr ar y cywydd yn y Gogledd, gan ddilyn esiampl Dafydd ap Gwilym yn y De. Roedd Llywelyn Goch yn fardd proffesiynol o dras uchelwrol. Arferai deithio i'r De a'r Gogledd i ganu yn nhai noddwyr. Roedd yn adnabod Hopcyn ap Tomas ac yn trafod dysg draddoiadol Cymru ar ei aelwyd. Roedd yn gyfaill hefyd i Iolo Goch, a ganodd farwnad iddo ar ei farwolaeth, tua 1390 efallai. Ceir cyfeiriad ato gan fardd cyfoes arall, Gruffudd Llwyd.[1]

Cerddi golygu

Cedwir 12 o gerddi Llywelyn Goch yn y llawysgrifau. Maent yn cynnwys canu mawl (awdlau yn bennaf) i Ddafydd ap Cadwaladr o Fachelltref, Rhys ap Rhys ap Gruffudd o Abermarlais, Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron, Hywel a Meurig Llwyd o Nannau, Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan, a Gronwy ap Tudur o Benmynydd. Canodd yn ogystal awdl i ddiolch i Dduw am arbed bywyd Llywelyn Fychan ap Llywelyn, Abad Ystrad Fflur. Yn y cerddi hyn mae'r bardd yn dal i ddefnyddio rhai o ymadroddion ac arddulliau hynafol y Gogynfeirdd.[2]

Ceir yn ogystal canu serch ganddo, yn cynnwys cywydd llatai sy'n gofyn i benlöyn fynd â neges i ferch, a cherdd o gerydd i'w farf am lesteirio ei garwriaeth â merch arall.[2]

Ei gerdd enwocaf yw Marwnad Lleucu Llwyd, merch o Bennal ger Machynlleth. Mae'n un o'r cerddi dwysaf o'i math yn yr iaith Gymraeg ac mae'r copïau niferus ohoni a'r amrywiadau testunol yn profi ei bod wedi mwynhau cylchrediad eang ar lafar ac ar glawr. Tyfodd cylch o draddodiadau am garwriaeth Llywelyn a Lleucu. Mae'r testun Breuddwyd Llywelyn Goch ap Meurig Hen, un o'r Areithiau Pros, yn ei drafod.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (Aberystwyth, 1998). Golygiad safonol o waith y bardd.
  • Ceir testunau mewn orgraff ddiweddar o 'Farwnad Lleucu Llwyd' a'r cywydd 'Y Penlöyn' yn Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (cerddi 49-50).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (Aberystwyth, 1998). Rhagymadrodd.
  2. 2.0 2.1 Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (Aberystwyth, 1998).