Llywodraeth glymblaid

Cabinet llywodraeth seneddol lle mae nifer o bleidiau gwleidyddol yn cydweithio ydy llywodraeth glymblaid neu llywodraeth glymbleidiol. Yn amlach na pheidio, y rheswm am y trefniant hwn yw am nad yw'r un blaid wleidyddol wedi llwyddo cipio mwyafrif yn y Senedd. Gellir creu llywodraeth glymbleidiol hefyd mewn cyfnod o anhawster neu argyfwng cenedlaethol, er enghraifft adeg rhyfel, er mwyn darparu'r cyfreithlondeb ymddangosiadol sydd angen, tra'n lleihau ymryson gwleidyddol mewnol. Ar adegau fel hyn, mae pleidiau wedi creu clymbleidiau pob-plaid. Os yw clymblaid yn cwympo, cynhelir pleidlais hyder neu ceir pleidlais diffyg hyder.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.