Longinus

athronydd Neoplatonaidd Syria/Eifftaidd (c.213–273)

Roedd Cassius Longinus yn rhethregydd Groeg (tua 213-273), a anwyd yn Athen.

Longinus
Ganwyd213 Edit this on Wikidata
Homs Edit this on Wikidata
Bu farwPalmyra Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd Edit this on Wikidata

Ei yrfa golygu

Astudiodd Longinus Newydd-Blatoniaeth yn Alexandria yn yr Aifft Isaf. Dychwelodd i'w ddinas enedigol i ddysgu athroniaeth, gramadeg (h.y. beirniadaeth lenyddol) a rhethreg yn 260.

Fe'i galwyd gan Zenobia, brenhines Palmyra, yn 260, i fod yn weinidog yn ei llys. Am fod yr ymerodr Rufeinig Aurelian yn credu ei fod yn euog o berswadio'r frenhines i wrthsefyll awdurdod y Rhufeiniaid fe'i dienyddwyd ganddo yn sgîl cwymp Palmyra yn 273.

Gwaith llenyddol golygu

Roedd Longinus yn enwog am ei ddysg. Fe'i cyffelybwyd gan Eunapius i "lyfrgell fyw" ac "amgueddfa ar gerdded". Cyfansoddodd weithiau mewn sawl maes, yn cynnwys athroniaeth, rhethreg, gramadeg, hanes cronolegol a llenyddiaeth. O'r rhain dim ond drylliau sydd wedi goroesi, e.e. rhagymadrodd i sylwebaeth ar lawlyfr gan Hephæstion ar fesurau cerdd dafod Groeg.

Mae'r traethawd byr "Ar yr Aruchel" (Περι ϋψους), a dadogir arno yn gyffredinol, yn waith awdur anhysbys cynharach, yn ôl pob tebyg, ac yn dyddio o'r ganrif gyntaf Cyn Crist. Roedd yn llyfr poblogaidd a dylanwadol yn ysgolion rhethreg Ewrop ar ddiwedd yr Oesoedd Canol ac ar ddechrau'r cyfnod modern.

Ffynonellau golygu

  • F.W. Hall, A Companion to Classical Texts (Rhydychen, 1913)
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)