Cantores a chynhyrchydd o Sweden o dras Morocaidd-Berberaidd yw Lorine Zineb Nora Talhaoui (ganed 16 Hydref 1983). Mae'n fwy adnabyddus dan ei henw llwyfan Loreen (Lorén yn flaenorol). Mae Loreen yn fwyaf adnabyddus am ganu'r gân fuddugol "Euphoria" wrth gynrychioli Sweden yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012. Ailadroddodd ei chyflawniad yn 2023. Daeth hi i sylw'r cyhoedd yn Sweden am y tro cyntaf ar ôl ymddangos ar y sioe Idol 2004. Fe'i dewiswyd i gyfranogi fel 'nod-chwiliwr' gan feirniaid y sioe a daeth yn bedwaredd yn y gystadleuaeth.

Loreen
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden

Bywyd cynnar golygu

Ganed Loreen yn Stockholm, Sweden yn 1983 ond symudodd ei theulu i Västerås, lle mynychodd ysgol.[1][2] Treuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd yn Gryta yn eu harddegau, ardal breswyl yn Västerås.[3][4] Berberiaid ydy'i rhieni, o dde Moroco.[5]

Perfformiadau ar Idol 2004 golygu

Gyrfa golygu

Yn 2005 rhyddhaodd Loreen y sengl "The Snake" gyda'r grŵp Rob'n'Raz. Gweithiodd hi wedyn fel cyflwynydd ar y sianel deledu TV400.[6]

Perfformiodd Loreen yng ngystadleuaeth Melodifestivalen 2011 gyda'i chân "My Heart is Refusing Me" a ysgrifennwyd gan Moh Denebi, Björn Djupström a hithau, gyda'r gobaith o gynrychioli Sweden yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2011. Canodd hi yn yr ail rownd gyn-derfynol yn Gothenburg a daeth hi'n bedwaredd gan ennill lle yn y rownd 'ail siawns' ond methodd hi symud ymlaen i'r rownd derfynol. Rhyddhawyd y sengl "My Heart is Refusing Me" ar 11 Mawrth 2011. Roedd y gân yn boblogaidd yn Sweden gan ennill y nawfed safle ar siart senglau Sweden.[7]

Perfformiodd Loreen ym Melodifestivalen 2012 gyda'i chân "Euphoria". Perfformiodd hi yn y rownd gyn-derfynol gyntaf ar 4 Chwefror 2012 ac mae hi wedi symud ymlaen yn syth i'r rownd derfynol a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2012 yn Stockholm. Enillodd hi Melodifestivalen ac o ganlyniad cynrychiolodd Sweden yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012 gyda'i chân "Euphoria", gan ddod yn fuddugol.

Enillodd Loreen y gystadleuaeth am yr ail dro yn 2023 yn Lerpwl, Lloegr, gyda'r gân "Tattoo". Roedd hi'n gantores fenywaidd gyntaf i ennill y gystadleuaeth ddwywaith.[8]

Disgyddiaeth golygu

Senglau golygu

Blwyddyn Sengl Lleoliad
uchaf
 
[9]
2005 "The Snake" (feat. Rob'n'Raz)
2011 "My Heart is Refusing Me" 9
"Sober" 56
2012 "Euphoria" 1
TBD "If She's The One"

Cyfeiriadau golygu

  1. KP: Loreen KP11 2011
  2. [Musikläraren tror på seger http://vlt.se/kulturnoje/1.1575759-musiklararen-tror-pa-seger Archifwyd 2012-12-25 yn Archive.is]
  3. [Loreen vinner Melodifestivalen http://vlt.se/kulturnoje/1.1575988-loreen-vinner-melodifestivalen Archifwyd 2012-12-24 yn Archive.is]
  4. "Loreen Q&A från Melodifestivalen 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 2012-07-11.
  5. Loreen > Biography
  6. "Idol-Lorén får eget tv-program" Expressen
  7. SwedishCharts.com: Page for "My Heart is Refusing Me"
  8. Josh Halliday (14 Mai 2023). "Sweden wins Eurovision song contest in Liverpool with Loreen". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mai 2023.
  9. SwedishCharts.com: Loreen page

Dolenni allanol golygu