Roedd Lucius Ampelius (fl. tua dechrau'r 2 CC) yn llenor Lladin.

Lucius Ampelius
Ganwyd2 g Edit this on Wikidata
Bu farwUnknown Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, hanesydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd3 g, 4 g Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLiber Memorialis Edit this on Wikidata

Ychydig sy'n hysbys amdano. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur llyfr nodiadau, y Liber Memorialis, sy'n cynnwys nifer o erthyglau byrion ar seryddiaeth, daearyddiaeth a hanes.

Er mor dibwys ynddo'i hun y mae'r unig lyfr ganddo sydd wedi goroesi, mae'n haeddu sylw fel ffynhonnell i'r archaeolegwyr o'r Almaen a fu'n cloddio ar safle Pergamum; defnyddiasant y wybodaeth a rydd Ampelius yn ei bennod ar Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd i ddarganfod y cerfluniau Groegaidd enwog sydd bellach yn Amgueddfa Berlin.