Lucius Sergius Catilina

Gwleidydd Rhufeinig oedd Lucius Sergius Catilina (108 CC62 CC). Disgrifir ef fel gwrthryfelwr gan awduron megis Cicero a Sallustius.

Lucius Sergius Catilina
Ganwyd108 CC Edit this on Wikidata
Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Bu farw62 CC Edit this on Wikidata
Pistoia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd hynafol, Rhufeinig Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, Praetor, Propraetor Edit this on Wikidata
MamBelliena Edit this on Wikidata
PriodGratidia, Aurelia Orestilla Edit this on Wikidata
Cicero yn ymosod ar Catilina (chwith) yn Senedd Rhufain (ffresgo, 19g)

Ganed ef i hen deulu uchelwrol oedd wedi colli dylanwad yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn un o gefnogwyr Sulla, ac yn arweinydd carfan o wŷr ieuanc. Ymladdodd yn Rhyfel y Cyngheiriaid yn 98 CC88 CC, gan wasanaethu dan Gnaeus Pompeius Strabo yn 89 CC. Gwasanaethodd fel praetor yn 68 CC, yna'r flwyddyn ddilynol fel propraetor yn Affrica.

Methodd y cyfle i ymgeisio am swydd Conswl yn 66 CC, ac yn ôl Sallustius cynllwyniodd i lofruddio'r ddau gonswl yn 65 CC, ond methodd y cynllun. Yn 64 CC, ymgeisiodd am swydd Conswl eto ar gyfer 63 CC, ond yn ôl Cicero, roedd hefyd yn cynllwynio i gipio grym trwy drais. Cafodd Cicero wybod am y cynlluniau ar noson 27 Hydref, a chondemniodd Catilina mewn araith yn y Senedd. Gorfodwyd Catilina i ffoi i Etruria.

Ar 3 Rhagfyr, gorchymynodd Cicero, fel Conswl, gymeryd nifer o gefnogwyr amlwg Catilina i'r ddalfa. Wedi trafodaeth yn y Senedd, condemniwyd hwy i farwolaeth ar 5 Rhagfyr. Roedd Catilina wedi codi byddin yn Etruria, ond gorchfygwyd ef gan fyddin dan Gaius Antonius Hybrida yn gynnar yn 62, a lladdwyd Catilina yn y frwydr.