Ludwig Guttmann

Sylfaenydd y Gemau Paralympaidd o'r Almaen-Brydeinig

Niwrolegydd Almaenig oedd Syr Ludwig "Poppa" Guttmann CBE, FRS (3 Gorffennaf 1899 yn Tost, Silesia, yr Almaen18 Mawrth 1980), a sefydlodd y Gemau Paralympaidd a cysidrir i fod yn un brif arloeswyr gweithgareddau corfforol ar gyfer pobl gydag anabledd.[1]

Ludwig Guttmann
Ganwyd3 Gorffennaf 1899 Edit this on Wikidata
Toszek, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mawrth 1980 Edit this on Wikidata
Aylesbury Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethniwrolegydd, llawfeddyg nerfau, meddyg Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Hall of Fame des deutschen Sports, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Ef oedd un o'r niwrolegwyr mwyaf blaengar yn yr Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd. Gweithiodd Guttmann yn yr Ysbyty Iddeweg yn Breslau tan 1939, pad orfodwyd i ddianc i Loegr. Ym 1944, gofynnodd y llywodraeth Prydeinig iddo sefydlu Canolfan Anafiadau Sbinol Cnedlaethol yn Stoke Mandeville y tu allan i Lundain, yn Ysbyty Stoke Mandeville. Apwyntwyd yn gyfarwyddwr y ganolfan, a deliodd y swydd hyd 1966. Credodd fod chwaraeon yn ffurf o therapi, gan ei ddefnyddio i adeiladu cryfder corfforol a hunan barch mewn cleifion. Erbyn 1952, roedd Gemau Stoke Mandeville Guttmann ar gyfer yr anabl wedi tyfy i gynnwys 130 o gyfranogwyr rhyngwladol, a parhaodd i dyfu. Gwnaeth argraff ar swyddogion y Gemau Olympaidd a'r gymuned rhyngwladol. Ym 1956, gwobrwywyd Guttmann gyda Chwpan Fearnley, am ei gyfraniad rhagorol i'r ddelfryd Olympaidd. Dechreuodd y Gemau Paralympaidd yn Rhufain ym 1960, a cynhelir hwy yn fuan ar ôl y Gemau Olympaidd ac yn aml yn yr un ddinas. Sefydlodd Guttmann hefyd Gymdeithas Prydeinig Chwaraeon yr Anabl ym 1960.

Derbyniodd Guttmann OBE a CBE yng ngwledydd Prydain a cafodd ei anrhydeddu'n fyd-eang. Ym 1966 cafodd ei wneud yn farchog gan y Frenhines Elisabeth II ac felly daeth yn KBE (Marchog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig).

Cyfeiriadau golygu