Médecins Sans Frontières

Mudiad dyngarol sy'n ceisio ehangu'r ddarpariaeth feddygol ydy Médecins Sans Frontières (MSF), neu Meddygon Heb Ffiniau.

Logo'r Mudiad ar ddrws mewn gwersyll ffoaduriaid yn Tsiad

Yn aml, mae'r meddygon yn gweithio yng ngwledydd y Trydydd Byd, ac epidemig, newyn ac afiechydon yn dew yno.

Cafodd ei sefydlu yn 1971 gan grwp bychan o feddygon o Ffrainc yn dilyn rhyfel cartref Biafra, meddygon a gredawsant fod gan pob person yr hawl i gael gofal meddygol waeth beth fo'i liw neu ei gredo ac nad oedd ffiniau gwleidyddol gwledydd yn bwysig. Mae Cyngor Rhyngwladol y mudiad yn cyfarfod yn Genefa, Swistir, ble sefydlwyd eu Prif Swyddfa - sy'n cydgordio gweithgareddau sy'n gyffredin drwy'r byd.

Yn 2007 darparwyd cymorth meddygol i dros 60 o wledydd a hynny gan dros 26,000 o feddygon, nyrsus a staff proffesiynnol eraill megis peiriannwyr dŵr a gweinyddwyr. Mae noddwyr preifat yn cyfrannu tuag 80% o holl wariant y mudiad gyda'r gyllideb blynyddol o tua (USD) $400 miliwn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Forsythe, David P. (2005) The Humanitarians: The International Committee of the Red Cross, Cambridge University Press. ISBN 0521612810.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: