Braich o Gefnfor y De yw Môr Amundsen, oddi ar Dir Marie Byrd yng ngorllewin yr Antarctig. Gorwedd Ynys Thurston i'r dwyrain a Penrhyn Dart i'r gorllewin. Cafodd y môr hwn ei enwi er anrhydedd y fforiwr Norwyaidd Roald Amundsen gan daith fforio Norwyaidd 1928-29, dan y Capten Nils Larsen, wrth iddynt fforio'r ardal yma yn Chwefror 1929.

Môr Amundsen
Mathmôr ymylon Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlRoald Amundsen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor y De Edit this on Wikidata
SirArdal Cytundeb Antarctig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau73°S 112°W Edit this on Wikidata
Map
Map o ardal Môr Andersen

Gorchuddir y rhan fwyaf o'r môr gan rew ac mae Tafod Rhew Thwaites yn ymwthio iddo. Mae gan y llen iâ sy'n llifo i Fôr Amundsen drwch o tua 3 km (2 milltir); mae tua'r un maint â thalaith Texas. Mae'n un o dri basn iâ mwyaf Llen Iâ Gorllewin yr Antarctig.

Dolenni allanol golygu