Môr sy'n cysylltu'r Môr Du a Môr Aegaea yw Môr Marmara (Twrceg: Marmara Denizi, Groeg: Θάλασσα του Μαρμαρά neu Προποντίς). Yn y cyfnod clasurol, gelwid ef y Propontis (Groeg: Προποντίς).

Môr Marmara
Mathmôr mewndirol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMarmara Island Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd11,350 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.75°N 28°E Edit this on Wikidata
Map
Môr Marmara

Mae Môr Marmara yn gwahanu than Ewropeaidd Twrci oddi wrth y rhan Asiaidd o'r wlad. Yn y gogledd mae culfor y Bosphorus yn arwain i'r Môr Du, tra yn y de-orllewin mae culfor y Dardanelles yn ei gysylltu a Môr Aegaea. Mae ganddo arwynebedd o 11,350 km², ac mae'n 1,370 medr o ddyfnder yn ei fan dyfnaf.

Daw'r rnw oherwydd bod Ynys Marmara yn y môr yma yn cynhyrchu marmor (Groeg: marmaro). Ynys arall ym Môr Marmara yw İmralı, lle mae Abdullah Öcalan wedi ei garcharu.