Môr Solomon

môr

Rhan o'r Cefnfor Tawel yw Môr Solomon.

Môr Solomon
Mathmôr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
GwladYnysoedd Solomon, Papua Gini Newydd Edit this on Wikidata
Arwynebedd720,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau7.5°S 152.67°E Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Môr Solomon

Daearyddiaeth golygu

Diffinnir y môr i'r gorllewin hyd y de-ddwyrain gan ynys Gini Newydd, i'r gogledd gan ynys Prydain Newydd, i'r dwyrain gan Ynysoedd Solomon ac i'r de gan ynysoedd Gorynys Luisiade.

Yn y de mae'r môr yn cysylltu â'r Môr Coral ac i'r gogledd-orllewin â Môr Bismarck.

Gydag arwyneb o tua 720.000 km sgwar mae'n cynnwys basn daearyddol Prydain Newydd yn y gogledd ac Ynysoedd Solomon yn y de. Yn ei fan dyfnaf mae'n cyrraedd 9140 metr dan y môr yn Ffos Prydain Newydd. Y ddinas fwyaf ar ei lannau yw Honiara, prifddinas Ynysoedd Solomon.

Hanes golygu

Ar ddyfroedd Môr Solomon a'i ynysoedd Nelle cafwyd nifer o frwydrau rhwng y Cynghreiriaid a'r Siapaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.