Traffordd sy'n cysylltu Sir Fynwy yng Nghymru a Swydd Gaerloyw yn Lloegr yw'r M48.

traffordd yr M48
Mathtraffordd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydam4 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1966 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.6179°N 2.6927°W Edit this on Wikidata
Hyd12 milltir Edit this on Wikidata
Map
Yr M48 yn croesi Pont Gwy o Gymru i Loegr, gyda Phont Hafren yn y cefndir

Traffordd gymharol fyr yw'r M48. Mae'n gadael traffordd yr M4 gerllaw Magwyr, ac yn arwain tua'r dwyrain i'r gogledd o'r M4. Ychydig i'r de o dref Cas-gwent, mae'n croesi'r ffîn i Loegr dros Afon Gwy, yna'n croesi Afon Hafren ar draws Pont Hafren, y bont wreiddiol. Mae'r M4 yn croesi ymhellach i'r de, ar hyd Ail Groesfan Hafren. Ceir tollfa yma, ond dim ond wrth deithio tua'r gorllewin. Ymuna a'r M4 eto gerllaw Olveston yn Swydd Gaerloyw.

Adeiladwyd y draffordd yma fel rhan o'r M4 yn 1966. Cafodd y rhif M48 yn 1996, pan agorwyd rhan newydd o'r M4 dros Ail Groesfan Hafren.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.