Madog Crypl

(1275-1304)

Etifedd Powys Fadog oedd Madog Crypl neu Madog Crippil, hefyd Madog ap Gruffudd (c. 1275 - 1304). Ni fu ef ei hun erioed yn dywysog Powys Fadog, yn hytrach daliai ran o'r eifeddiaeth fel deiliad i goron Lloegr.

Madog Crypl
Ganwyd1275 Edit this on Wikidata
Bu farw1304 Edit this on Wikidata
TadGruffudd Fychan I Edit this on Wikidata
MamMargaret ferch Rhys Ieunac Edit this on Wikidata
PlantGruffudd Fychan, Madog Fychan, Margred ferch Madog Crupl ap Gruffudd Farwn Edit this on Wikidata
Arfbais Powys Fadog
Arfbais Powys Fadog

Bu farw ei dad Gruffudd Fychan yn 1289, pan oedd Madog yn dal yn blentyn. Gweinyddwyd ei diroedd gan y frenhines, yna gan Reginald de Grey, Ustus Caer, yna gan Thomas o Macclesfield. Gofynnodd Madog i'r brenin wneud darpariaeth iddi, ac ymddengys iddo gael tiroedd ei dad; Glyndyfrdwy yn Edeirnion a hanner cwmwd Cynllaith, sef yr ardal o gwmpas Sycharth.

Priododd Gwenllian ferch Ithel Fychan, a chofnodir i fab iddynt, Gruffudd o Ruddallt, briodi Elizabeth, merch John LeStrange o Knockin yn 1304, pan oedd yn chwech oed. Bu Madog farw yr un flwyddyn. Yn ôl rhai o'r achau, roedd ganddo fab arall, Madog Fychan, a eifeddodd diroedd ei dad.

Llyfryddiaeth golygu

  • J. E. Lloyd Owen Glendower: Owen Glyn Dŵr (Clarendon Press, 1931)