Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn Y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Maenor Deilo (sillafiad amgen: Maenordeilo). Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.

Maenor Deilo
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Am y pentref yn Sir Gaerfyrddin, gweler Maenordeilo (pentref).

Gorweddai cwmwd Maenor Deilo yn rhan ddeheuol y Cantref Mawr, ar y ffin rhwng y cantref hwnnw â'r Cantref Bychan, i'r de. Ffiniai â chymydau Catheiniog, Caeo a Mallaen yn y Cantref Mawr, a Cwmwd Perfedd ac Is Cennen i'r de yn y Cantref Bychan.

Maenor Deilo oedd lleoliad Castell Dinefwr, sedd frenhinol tywysogion Deheubarth, ar lan ogleddol Afon Tywi. Heb fod ymhell i ffwrdd roedd Llandeilo Fawr, un o ganolfannau eglwysig hynaf a phwysicaf y de, a hawliodd fod yn orffwysfa i weddillion Sant Teilo.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.