Term a ddefnyddir yn hanes cysylltiadau rhyngwladol a daearwleidyddiaeth gyfoes yw maes dylanwad neu gylch dylanwad sydd yn disgrifio ardal neu ranbarth daearyddol sydd yn ddarostyngedig i reolaeth, awdurdod neu ddylanwad gwladwriaeth neu weithredydd arall. Nid yw'r wlad drechaf yn hawlio sofraniaeth dros y diriogaeth ddarostyngedig, ond yn mynnu statws dethol neu dra-ffafriedig o ran cysylltiadau economaidd, y berthynas wleidyddol, neu'r sefyllfa filwrol.[1]

Cartŵn gwleidyddol o 1912 sydd yn portreadu'r hemisffer gorllewinol y tu mewn i faes dylanwad Wncl Sam (UDA), dan delerau Athrawiaeth Monroe.

Yn hanesyddol, ystyr maes dylanwad oedd yr ardal a gafodd ei hawlio gan bŵer tramor i fod yn ddarostyngedig i'w hegemoni. Modd o imperialaeth ydoedd er mwyn i wlad rymus ennill ac ehangu ei dylanwad ac awdurdod dros wlad wanach, annatblygedig gan amlaf, er budd diddordebau'r wlad drechaf. Gan amlaf bu'r pŵer trechaf yn anelu at ennill rhagor o reolaeth dros ei faes dylanwad, megis gwladychu neu gyfeddiannu'r tir neu sicrhau monopoli economaidd dros y diriogaeth heb reolaeth wleidyddol ohoni.

Daeth yr ymadrodd yn gyffredin yn oes drefedigaethol y gwledydd Ewropeaidd yn y 19g, yn enwedig yr Ymgiprys am Affrica a'r Gêm Fawr yng Nghanolbarth Asia. Datblygodd y cysyniad o feysydd dylanwad yn norm yng nghyfraith y cenhedloedd a wneid yn ffurfiol gan gytundebau rhwng y gwladychwyr. Defnyddiasant y fath cytundebau i ehangu eu hymerodraethau trwy gipio tiriogaethau cyfagos. Oherwydd y gystadleuaeth dros diriogaethau, roedd cytundebau ar feysydd dylanwad yn bwysig i gydbwyso'r grym yn oes Cytgord Ewrop ac i atal rhyfela rhwng gwledydd Ewrop. Hawliodd Unol Daleithiau America yr holl hemisffer gorllewinol yn faes dylanwad trwy Athrawiaeth Monroe, a mabwysiadodd bolisïau economaidd a milwrol i ehangu ei grym dros wledydd eraill yr Amerig, er enghraifft Diplomyddiaeth y Ddoler.

Cafwyd cytundebau hefyd rhwng y gwladychwr a chynrychiolydd o'r diriogaeth yn y maes dylanwad. Roedd y sefyllfa yn fath o ddychmygiad cyfreithiol oblegid sofraniaeth y cenhedloedd a leolir yn y maes dylanwad, gan ddiogelu eu hannibyniaeth ddamcaniaethol. Yn wir, roedd yr hegemon yn hynod o bwerus ac yn barod i orfodi grym – boed yn wleidyddol, yn economaidd neu'n filwrol – os oedd bygythiad i'w awdurdod yn y maes dylanwad. Os nad oedd y pŵer hegemonaidd yn fodlon wladychu'r diriogaeth yn gyfangwbl, yn aml cafodd brotectoriaeth neu wladwriaeth byped ei sefydlu yn lle.

Yn y byd ôl-drefedigaethol, defnyddir yr ymadrodd i ddisgrifio rhannau'r byd sydd dan ddylanwad pwerau mawrion neu bwerau rhanbarthol. Yn y drefn ryngwladol gyfoes, caiff cyfanrwydd tiriogaeth ei ymgorffori yn y gyfraith ryngwladol ac mae gwledydd yn ffurfio'u meysydd dylanwad trwy ddulliau diplomyddol, masnachol, a diwylliannol yn hytrach na grym milwrol. Cyhuddir gwledydd pwerus o imperialaeth ddiwylliannol a neo-wladychiaeth o ganlyniad i'r fath bolisïau. Yn ystod y Rhyfel Oer, cafodd y byd ei rannu rhwng gwledydd cyfalafol y tu mewn i faes dylanwad UDA, gwledydd comiwnyddol dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd, a gwledydd tlawd "y Trydydd Byd" (neu'r Mudiad Amhleidiol). Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1990–91, mae Ffederasiwn Rwsia wedi hawlio maes dylanwad dros y cyn-weriniaethau Sofietaidd, a elwir yn "y tramor cyfagos". Mae UDA wedi ehangu ei faes dylanwad yn enw ei diogelwch cenedlaethol, er enghraifft yn y Dwyrain Canol trwy oresgyn Irac yn 2003 i ddymchwel llywodraeth Saddam Hussein.

Cyfeiriadau golygu

  1. Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998), t.509.