Un o ddwy gerdd epig fawr India yw'r Mahabharata; y llall yw'r Ramayana. Mae'n cynnwys dros 74,000 o benillion a rhannau hir mewn rhyddiaith, tua 1.8 miliwn gair i gyd; sef tua deg gwaith maint yr Iliad a'r Odyssey gyda'i gilydd.

Krishna ac Arjuna yn gyrru mewn cerbyd; golygfa o'r Mahabharata

Mae’n gerdd o bwysigrwydd mawr yn niwylliant India ac yn un o weithiau pwysicaf Hindŵaeth. Yn draddodiadol, enwir yr awdur fel Vyasa.

Yn y gerdd ceir hanes yr ymladd am oruchafiaeth a gorsedd teyrnas Hastinapura rhwng dwy gangen o deulu Kuru. Arweinir cangen y Kaurava gan Duryodhana, a changen y Pandava gan Yudhisthira, y ddau yn hawlio'r orsedd. Diwedda'r ymladd gyda brwydr fawr Kurukshetra, lle mae'r Pandava yn fuddugoliaethus.

Diwedda'r Mahabharata ei hun gyda marwolaeth Krishna, ac esgyniad y brodyr Pandava i'r nefoedd. Dynoda hyn ddechrau oes newydd y Kali Yuga, oes Kali.

Efallai mai'r darn enwocaf o'r Mahabharata yw'r Bhagavad Gita; 700 pennill lle mae Krishna, cyn brwydr Kurukshetra, yn egluro i Arjuna beth yw ei ddyletswydd fel rhyfelwr ac fel tywysog, gan roi amlinelliad o holl athroniaeth Hindŵaeth.

Ffynhonnell golygu

  • Benjamin Walker, Hindu World: an encyclopedic survey of Hinduism (Harper Collins, 1968; argraffiad newydd, Delhi, 1995).

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.