Ymgyrchydd dros heddwch ydy Máiread Corrigan (ganwyd 27 Ionawr 1944), ac a adnabyddir hefyd fel Máiread Corrigan-Maguire. Sefydlodd gyda'i ffrind Betty Williams, Merched Dros Heddwch a newidiwyd ei enw'n ddiweddarach yn Cymuned o Bobl Heddychlon (Saesneg: the Community of Peace People), mudiad sy'n ceisio annog atebion i broblemau Gogledd Iwerddon drwy heddwch. Cyflwynwyd y Wobr Nobel i'r ddwy ffrind a'r llall yn 1976.[1] Mae hi wedi derbyn nifer helaeth o wobrau eraill hefyd.

Mairead Corrigan
Ganwyd27 Ionawr 1944 Edit this on Wikidata
Belffast Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethymgyrchydd heddwch, gwleidydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, People's Peace Prize, Gwobr Pacem in Terris, Carl-von-Ossietzky-Medaille Edit this on Wikidata

Troi ei threm tuag Israel golygu

Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn dadlau yn erbyn polisiau Israel yn y Dwyrain Canol, ac yn enwedig sefyllfa'r Palesteiniaid yn Llain Gaza. Roedd ar fwrdd y MV Rachel Corrie, cwch a oedd yn dilyn y chwe chwch a ymosodwyd arno gan filwyr Israel ar 31 Mai, 2010.

Ynghyd a'i chwaer Betty Williams, derbyniodd Wobr Nobel dros heddwch yn 1977 (am 1976) oherwydd eu gwaith diflino. Roedd hi'n 32 ar y pryd ac mae hi'n parhau i fod yr Enillydd Gwobr Nobel ieuengaf erioed.

Yn Ebrill 2009, beirniadodd Israel yn llym drwy ddatgan fod ei Llywodraeth yn gweithredu Polisi o "Lanhau ethnig yn erbyn y Palesteiniaid" a bod y Polisiau hyn yn torri Deddfau Rhyngwladol, yn groes i hawliau dynol ac yn lleihau urddas y Palesteiniaid.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. The Nobel Peace Prize 1976 Archifwyd 2008-12-02 yn y Peiriant Wayback. Nobel Foundation 2009 Adalwyd ar 08-07-2009
  2. Maguire blasts Israeli 'ethnic cleansing' Archifwyd 2009-04-24 yn y Peiriant Wayback., Press TV, 22, Ebrill, 2009.