Yn llên gwerin Cymru, rhyw fod annaearol cyfrwys-ddrwg ac ystrywgar sy'n rhodio'r nos neu'r niwl yw Mallt y Nos.

Ni fyddai neb yn gweld y ddrychiolaeth anfad hon, ond er hynny mae un traddodiad yn ei disgrifio yn rhith hen ŵr penwyn. Preswyliai yn y niwl tew. Nid oedd byth i'w gweld ond i'w clywed, a drwg a fyddai i'r hwn a'i clywai. Taflai hud rhyfedd dros lygaid pobl nes peri iddynt fynd ar ddisberod yn y niwl ar y mynydd. Er iddynt gerdded ar hyd y nos yn ceisio dianc adref, deuent yn ôl i'r un man.

Cyfeiriadau golygu

  • William Davies, 'Llen-gwerin Meirion', Cofnodion a chyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Blaenau Ffestiniog, 1898 (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1900), tud. 200.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato