Hurfilwyr o ardal Campania yn yr Eidal yn y 3 CC oedd y Mamertiaid. Bu ganddynt ran bwysig yn nechreuad y Rhyfel Pwnig Cyntaf rhwng Gweriniaeth Rhufain a Carthago yn 264 CC.

Roedd y Mamertiaid yn wreiddiol wedi eu llogi gan Agathocles, cyn-unben Siracusa. Yn 269 CC, llwyddoddasant i gipio dinas Messana (Messina heddiw). Gorchfygwyd hwy gan y cadfridog Siracusaidd Hieron mewn brwydr ger afon Longanus ger Mylae, er i fyddin Garthaginaidd ei atal rhag cipio Messana. Yn dilyn ei fuddugoliaeth, gwnaeth trigolion Siracusa Hieron yn unben a brenin Siracusa fel Hieron II.

Yn 264 CC ymosododd Hiero ar y Mamertiaid unwaith eto. Gofynnodd y Mamertiaid am gymorth Carthago, ond wedi atal ymosodiad Hiero, gwrthododd y Carthaginiaid adael. Trôdd y Mamertiaid at y Rhufeiniaid am gymorth, a chroesodd y conswl Rhufeinig Appius Claudius Caudex i Sicilia gyda dwy leng, y tro cyntaf i fyddin Rufeinig groesi'r môr. Dechreuodd hyn y cyntaf o'r tri Rhyfel Pwnig rhwng Rhufain a Carthago.