Limenitis camilla
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Limenitis
Rhywogaeth: L. camilla
Enw deuenwol
Limenitis camilla
(Linnaeus, 1764)

Glöyn byw sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell wen, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll gwyn (-ion); yr enw Saesneg yw White Admiral, a'r enw gwyddonol yw Limenitis camilla.[1][2] Mae ei diriogaeth yn rhychwantu coetiroedd de Lloegr a Chernyw, y rhan fwyaf o Ewrop ac Asia, gan ymestyn i'r dwyrain mor bell â Japan.

Lled yr adenydd ar eu heithaf ydy 60–65 mm ac maent yn hedfan yn hynod o osgeiddig, gyda chyfnod byr o guro adenydd yn chwim, ac yna gleidio tawel, urddasol.

Yr oedolyn golygu

Blodau'r fiaren a chawod fêl (honeydew) ydy prif faeth yr oedolyn. Mae'r fenyw yn dodwy ei hwyau'n unigol ar laeth y gaseg a hynny mewn coetiroedd dwys.

Y lindys golygu

Gwyrdd ydy prif liw'r siani flewog, gyda blewiach browngoch arni sy'n ei galluogi i guddio ar ddail. Ar ddechrau'r hydref mae'n creu ffurf tebyg i babell allan o feinwe'r ddeilen ac yna'n ei gysylltu i fonyn y planhigyn gyda sidan o'i chorff cyn gaeafgysgu ynddo.

Wrth i haul y gwanwyn gynhesu, mae'n deffro ac yn cael cyfnod byr o fwyta. Yna, mae'n bwrw'i chroen a gwelir croen newydd gwyrdd arni. Pan ddaw'r haf mae'n troi'n chwiler o liw gwyrdd ac aur ac o fewn pythefnos, daw'r oedolyn i'r golwg.

Galeri o luniau golygu

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell wen yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.