Manuel Belgrano
Economegydd, cyfreithiwr, gwleidydd ac arweinydd milwrol Archentaidd oedd Manuel José Joaquín del Corazón de Jesús Belgrano, sef Manuel Belgrano (3 Mehefin 1770 – 20 Mehefin 1820), a aned yn ninas Buenos Aires. Fe'i ystyrir yn un o arwyr cenedlaethol yr Ariannin.
Manuel Belgrano | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mehefin 1770 Buenos Aires |
Bu farw | 20 Mehefin 1820 o edema Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, newyddiadurwr, economegydd, gwleidydd, person milwrol, cyfreithegwr |
Mudiad | Carlotism |
Plant | Pedro Rosas y Belgrano |
Perthnasau | Manuel Belgrano Cabral |
llofnod | |
Daeth yn arweinydd milwrol yn Rhyfel Annibyniaeth yr Ariannin a chafodd ei apwyntio'n gadfridog. Roedd Belgrano yn un o lofnodwyr Datganiad Annibyniaeth yr Ariannin, ar y 9fed o Orffennaf 1816.
Enwyd y llong ryfel ARA General Belgrano ar ei ôl; cafodd ei suddo yn Rhyfel y Malvinas yn 1982.
Eginyn erthygl sydd uchod am Archentwr neu Archentwraig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.