Duw Celtaidd mae ei enw yn ymddangos ar arysgrifau yng Ngâl a gogledd Prydain oedd Maponos (ffurf Ladin Maponus). Credir mai'r duw hwn oedd sail y cymeriad Mabon fab Modron yn chwedl Culhwch ac Olwen. Roedd yn dduw yr helfa ac ieuenctid, ac roedd y Rhufeiniaid yn ei uniaethu a'r duw Apollo.

Bedd Mabon? Dyna'r traddodiad yn yr Alban - yn Lochmaben

Ceir arysgrifau yn crybwyll Maponos yng Ngâl yn Bourbonne-les-Bains a Chamalières. Yng ngogledd Lloegr o gwmpas Mur Hadrian y ceir y nifer mwyaf o arysgrifau; fe'u ceir yn Brampton, Corbridge (Coria yn y cyfnod Rhufeinig), Ribchester (Bremetenacum Veteranorum yn y cyfnod Rhufeinig) a Chesterholm (Vindolanda yn y cyfnod Rhufeinig). Er enghraifft, mae'r arysgrif gan bedwar Almaenwr yn Brampton wedi ei gysegru i'r duw Maponos a numen yr ymerawdwr:

Deo / Mapono / et n(umini) Aug(usti) / Durio / et Ramio / et Trupo / et Lurio / Germa/ni v(otum) s(olverunt) l(ibentes) m(erito)

Ymddengys yr enw "Maponos" mewn dau le yn yr Alban; Lochmaben a'r Clochmabenstane ger Annan, sydd efallai wedi deillio o Locus Maponi.

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu