Llofrudd cyfresol Belgaidd yw Marc Dutroux (ganwyd 6 Tachwedd 1956).

Marc Dutroux
GanwydMarc Paul Alain Dutroux Edit this on Wikidata
6 Tachwedd 1956 Edit this on Wikidata
Ixelles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
Galwedigaethtrydanwr Edit this on Wikidata
PriodMichelle Martin Edit this on Wikidata

Ym 1989 cafwyd yn euog o bum achos o ymosodiad rhywiol a dedfrydwyd i garchar am 13 mlynedd, ond cafodd ei ryddhau ar ôl tair mlynedd. O 1992 hyd 1996, cipiodd a threisiodd nifer o ferched. Cyhuddwyd yr heddlu o anwybyddu gwybodaeth a chyhuddiadau yn erbyn Dutroux. Ym 1996, chwiliwyd un o'i dai a chanfwyd dwy ferch yn eu harddegau wedi'u cadw mewn cell. Ychydig o ddyddiau'n hwyrach, cafodd dwy ferch arall, wyth mlwydd oed, eu canfod wedi'u claddu mewn un o'i dai arall. Yn 2004 cafwyd Dutroux yn euog o lofruddiaeth, herwgipio, a thrais rhywiol a dedfrydwyd i garchar am oes.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) John Philip Jenkins. Marc Dutroux. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


   Eginyn erthygl sydd uchod am Felgiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.