Marciau Battenburg

Patrwm o farciau bwrdd gwyddbwyll o welededd uchel yw marciau Battenburg sy'n ymddangos yn bennaf ar gerbydau'r gwasanaethau brys. Daw'r enw o debygrwydd y marciau i deisen Battenberg. Defnyddir y marciau yn y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, Hong Cong, Seland Newydd, Sweden, a'r Swistir.

Marciau Battenburg ar feic modur Heddlu Swydd Bedford.
Marciau Battenburg ar ochr cerbyd ymateb arfog (ARV) Heddlu Brenhinol Gibraltar.

Y Deyrnas Unedig golygu

Dyma liwiau'r marciau Battenburg a ddefnyddir gan wasanaethau brys y Deyrnas Unedig:

Marciau Battenburg yn y Deyrnas Unedig
  Heddlu Melyn / Glas
  Ambiwlansys a meddygon Melyn / Gwyrdd
  Tân ac achub Melyn / Coch
  Gwasanaeth Gwaed Cenedlaethol Melyn / Oren
  Highways Agency (Lloegr) a VOSA Melyn / Du
  Network Rail Glas / Oren
  Achub mynydd Gwyn / Oren
  Gwylwyr y glannau Melyn / Glas nefi

Gweler hefyd golygu