Marcus Valerius Martialis

bardd Lladin o Hispania

Martial (c.40-c.104 OC), bardd Rhufeinig sy'n enwog am ei epigramau.

Marcus Valerius Martialis
GanwydMawrth 0040 Edit this on Wikidata
Augusta Bilbilis Edit this on Wikidata
Bu farw104 Edit this on Wikidata
Augusta Bilbilis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEpigrammata Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, dychan Edit this on Wikidata
MamFlaccilla Edit this on Wikidata
PriodMarcella Edit this on Wikidata

Ei fywyd golygu

Cafodd Martial ei eni yn y dref Rufeinig Augusta Bilbilis (Catalayud, ger Zaragoza, heddiw) yn nyffryn Jalon, talaith Hispania Tarraconensis (gogledd-ddwyrain Sbaen), tua'r flwyddyn 40 OC. Roedd yn ddinesydd Rhufeinig ond ystyriai ei hun yn Gelt-Iberiad yn ogystal, sef brodor o Sbaen o dras Geltaidd. Astudiodd y gyfraith yn ei dref enedigol ac aeth yn ei flaen i Rufain i gwblhau ei astudiaethau. Roedd hynny yn amser teyrnasiad yr ymherodr Nero. Yno ymroddodd Martial i farddoni a chafodd nawdd gan ffigyrau cyhoeddus pwysig fel Titus a Domitian. Arosodd yn y brifddinas am 34 blynedd.

Dychwelodd i Bilbilis yn y flwyddyn 98, yn ystod teyrnasiad Trajan, ond erbyn hynny roedd wedi colli nifer o'i noddwyr yn Rhufain a bu rhaid i Pliny'r Ieuengaf roi arian iddo i dalu am y daith adref. Cafodd groeso yn ei dref enedigol ond er iddo dderbyn nawdd gan Marcella ac eraill yn Sbaen ei freuddwyd oedd dychwelyd i'r ddinas fawr ar lannau Afon Tiber. Bu farw yn Bilbilis tua 104 OC (neu efallai mor hwyr â 120 OC yn ôl rhai awdurdodau).

Ei waith golygu

Martial a roddodd enedigaeth i'r epigram modern. Ef oedd y cyntaf o'r beirdd clasurol i ymroi yn llwyr i'r epigram fel ffurf lenyddol ynddo'i hun. Nodweddir ei waith gan ddarluniau o foesau llygredig ei oes a synnwyr dychan deifiol. Ond fe'i bernir yn aml am ei ddiffyg difrifoldeb a'i chwaeth aflednais (mae ei waith yn cynnwys cerddi erotig "coch" iawn). Tuedda hefyd i seboni ei noddwyr, yn arbennig yn achos Domitian. Serch hynny mae ei epigramau yn rhoi inni ddarlun bywiog o arferion a moes Rhufain yn y cyfnod hwnnw ac yn werth eu darllen am eu delweddau lliwgar a'u disgrifiadau bachog.

Ac eto ar adegau medrai ysgrifennu ar nodyn gwahanol, megis yn y gyfres fer o gerddi dwys a thyner er cof am ei ferch fach Erotion, a fu farw chwech diwrnod cyn ei chweched penblwydd:

Gorwedd yn ysgafn arni, Ddaear, canys troediai'n ysgafn arnat Ti.

Erys ar glawr dau lyfr o epigramau sy'n ymwneud â'r spectaclau cyhoeddus yn Rhufain, y Liber Spectaculorum. Casglwyd ei epigramau eraill mewn 12 llyfr, yr Epigramaton libri xii. Llai pwysig yw'r ddau destun arall ganddo, sef Xenia ac Apophoreta.

Ffynonellau golygu

  • F.W. Hall, Companion to Classical Texts (Rhydychen, 1913)
  • W.C.A. Ker (gol.), Martial (Llundain, 1934). Yn y gyfres The Loeb Classical Library; y testun Lladin ac aralleiriad Saesneg.
  • Henry Nettleship a J.E. Sandys, Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902).

Cysylltiadau allanol golygu