Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Margam. Fe'i lleolir ger Port Talbot yn agos i gyffordd 39 o draffordd yr M4.

Margam
Mathmaestref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,017 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,912.61 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5744°N 3.7528°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001024 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[2]

Hanes golygu

 
Parc Gwledig Margam
 
Orendy Margam: y mwyaf yn Ewrop

Roedd Margam yn gymuned hynafol Gymreig ac arferai fod yn rhan o gwmwd Tir Iarll. Yn wreiddiol cawsai ei ddominyddu gan Abaty Margam, tŷ cefnog y Sistersiaid a sefydlwyd ym 1147. Pan ddiddymwyd yr abatai, daeth yr abaty i feddiant y teulu Mansel a dilynwyd hwy gan eu disgynyddion benywaidd, y teulu Talbot a oedd yn gangen o deulu Iarll Amwythig.

Parhaodd eglwys y plwyf i weithredu o gorff Abaty Margam, ac mae'n parhau i wneud hynny o hyd. Mae Castell Margam yn cynnwys adfeilion o'r Chapter House a chofgolofnau mawrion o'r 17eg a'r 18g. Yn yr Amgueddfa Gerrig ceir tystiolaeth bwysig am ddyfodiad Cristnogaeth cynnar i'r ardal.

Gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol, daeth plwyf Margam yn bwysig am ddau reswm. Yn gyntaf, roedd yno harbwr da a ddatblygwyd yn ddiweddarach i fod yn Bort Talbot. Rhoddwyd yr enw iddo fel teyrnged i un o ysweiniaid Margam. Yn ail, roedd yno gyflenwad o lo a gwelwyd datblygiad sylweddol yn y diwydiant glo ar ddiwedd y 18g. Golygodd y cyfuniad o lo a thrafnidiaeth effeithiol o'r harbwr bod Margam wedi chwarae rhan bwysig yn nhirwedd diwydiannol De Cymru.

Yn wreiddiol, trigai gweithwyr y pyllau glo i ffwrdd o bentref Margam ei hun, yn fwyaf amlwg ym mhentref Taibach. Wrth i amser fynd yn ei flaen, fodd bynnag, datblygodd y plwyf i gyd i fod yn gymuned o weithwyr diwydiannol. Yn sgîl hyn, datblygodd Margam i fod yn un o faesdrefi Port Talbot ac mae'n parhau felly tan heddiw.

Serch hynny, nid oedd tiroedd Abaty Margam wedi eu cynnwys yn niwydiannu a threfoli Margam. Cafodd yr Abaty eu cynnwys gan y teulu Talbot yn nhiroedd eu plasdy, Castell Margam gerllaw. Difrodwyd y plasdy yn ddifrifol ar ddiwedd yr 20g ond mae bellach yn cael ei adnewyddu. Yn ystod y 18g, roedd y teulu Talbot wedi adeiladu'r orendy mwyaf yn Ewrop a saif yr adeilad yno o hyd. Yng ngahnol yr 20g, gwerthwyd holl dir y teulu Talbot ac mae'r tir hwnnw bellach yn rhan o Barc Gwledig Margam. Mae'r tir yn ymestyn dros rhyw 850 erw (340 ha) a chaiff ei reoli gan y cyngor lleol.

Ar ddechrau'r 20g, daeth Margam yn gweithfeydd pwysig i British Steel a daeth y tyrrau oeri yn arwyddnod lleol. Cawsant eu dymchwel ym mis Tachwedd 2003 yn sgîl gor-gynhyrchu yn Ewrop.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Margam (pob oed) (3,017)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Margam) (295)
  
10.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Margam) (2541)
  
84.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Margam) (392)
  
31.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Gweler hefyd golygu