Darganfyddwr gwrachod Seisnig yn ystod cyfnod Rhyfel Cartref Lloegr oedd Matthew Hopkins (tua 162012 Awst 1647). Datganodd i fod yn Witchfinder General ond na roddwyd byth y teil yma gan Senedd Lloegr. Cynhaliodd ei erledigaethau yn bennaf yng ngorllewin Suffolk, Essex, Norfolk, ac ar adegau yn Swydd Gaergrawnt, Swydd Northampton, Swydd Bedford, a Swydd Huntingdon.[1]

Matthew Hopkins
Ganwydc. 1620 Edit this on Wikidata
Wenham Magna Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1647, 10 Awst 1647 Edit this on Wikidata
Manningtree Edit this on Wikidata
DinasyddiaethLloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, chwil-lyswr Edit this on Wikidata
Wynebddarlun o The Discovery of Witches (1647) gan Matthew Hopkins, yn darlunio gwrachod yn adnabod eu hysbrydion cyfarwydd.

Dechreuodd yrfa Hopkins fel darganfyddwr gwrachod ym Mawrth 1645[nb 1] a pharhaodd nes iddo ymddeol ym 1647. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd ei gymdeithion ac yntau yn gyfrifol am grogi mwy o bobl oherwydd dewiniaeth nac yn y 100 mlynedd diwethaf,[2][3] ac roeddent yn llwyr gyfrifol am y twf mewn erlid gwrachod yn ystod y blynyddoedd hynny.[4][5][6] Credir mai ef oedd yn gyfrifol am farwolaethau 300 dynes rhwng 1644 a 1646.[7] Amcangyfrifwyd y lladdwyd tua 500 o bobl ar ddechrau'r 15g ac ar ddiwedd y 18g oherwydd dewiniaeth. Felly, roedd ymdrechion Hopkins a'i gydweithiwr John Stearne yn cyfrannu tua 40 y cant o'r cyfan; nhw anfonodd fwy o bobl i'r crocbrennau mewn 14 mis na phob darganfyddwr arall yn y 160 mlynedd o erledigaeth yn erbyn gwrachod yn Lloegr.[8]

Cyfeiriadau golygu

Nodiadau
  1. Ni ddechreuodd y Flwyddyn Newydd tan 25 Mawrth bryd hynny
Troednodiadau
  1. Robbins 1959: p. 251"
  2. Russell 1981: tt. 97–98
  3. Thomas 1971: t. 537, ... nid oedd dienyddiadau yn Essex nes 1645.
  4. Deacon 1976: t. 41
  5. Notestein 1911: t. 164
  6. Thomas 1971: t. 528
  7. Sharpe 2002, t. 3
  8. Notestein 1911: t. 195
Llyfryddiaeth
  • Boyer, Paul S.; Nissenbaum, Stephen, eds. (1972), Salem-Village Witchcraft: A Documentary Record of Local Conflict in Colonial New England, Northeastern University Press, ISBN 1-55553-165-2
  • Cabell, Craig (2006), Witchfinder General: The Biography of Matthew Hopkins, Sutton Publishing, ISBN 075094269
  • Deacon, Richard (1976), Matthew Hopkins: Witch Finder General, Frederick Muller, ISBN 0584101643
  • Gaskill, Malcolm (2005), Witchfinders: A Seventeenth-Century English Tragedy, John Murray, ISBN 0719561205
  • Geis, Gilbert; Bunn Ivan (1997), A Trial of Witches A Seventeenth–century Witchcraft Prosecution, Routledge, ISBN 0415171091
  • Notestein, Wallace (1911), A History of Witchcraft In England from 1558 to 1718, American Historical Association 1911 (reissued 1965) New York Russell & Russell, ISBN 8240954829816
  • Robbins, Rossell Hope (1959), The Encyclopedia of Witchcraft and Demonology, Peter Nevill, ISBN 0517362457 (for modern publication)
  • Russell, Jeffrey B (1981), A History of Witchcraft, Thames & Hudson, ISBN 0500286340
  • Seth, Robert (1969), Children Against Witches, Robert Hale Co., ISBN 709106033
  • Sharpe, James (2002), "The Lancaster witches in historical context", in Poole, Robert, The Lancashire Witches: Histories and Stories, Manchester University Press, pp. 1–18, ISBN 978-0719062049
  • Thomas, Keith (1971), Religion and the Decline of Magic – Studies in Popular Beliefs in Sixteenth and Seventeenth Century England, Penguin Books, ISBN 0140137440

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu