Label recordiau Americanaidd ydy'r Maverick Records, sy'n rhan o'r cwmni adloniant, Maverick. Mae'r cwmni'n eiddo i'r Warner Music Group ac yn cael ei ddosbarthu trwy Warner Bros. Records.

Hanes y Cwmni golygu

Sefydlwyd Maverick Records gan Madonna, Frederick DeMann, Ronnie Dashev a Time Warner yn Ebrill 1992 fel rhan o'r cwmni adloniant Maverick. Mae'n gwmni sydd a swyddfeydd ar ddau arfordir yr Unol Daleithiau yn Ninas Efrog Newydd ac yn Los Angeles. Mae'r elfen cwmni recordiau Maverick yn cynnwys Maverick Musica (label lloeren a leolir ym Miami, Florida sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth Latino-Americanaidd) a Maverick Music (sy'n canolbwyntio ar gyhoeddi.)

Cafodd DeMann ei brynu allan o'r cwmni am $20 miliwn yn ôl y sôn ym 1998 a chynyddodd Guy Oseary ei siâr yn y cwmni gan gymryd rheolaeth o'r cwmni fel Cadeirydd ac Uwch-Gyfarwyddwr. Mae Maverick wedi cael llwyddiannau amlwg gan gynnwys Alanis Morissette, Michelle Branch, The Prodigy, Candlebox a'r band Deftones. Cafodd y label lwyddiannau hefyd gydag albymau a oedd yn cyd-fynd â ffilmiau fel The Wedding Singer, Jackie Brown a The Matrix. Yn ogystal â hyn, mae A Band Apart gan Quentin Tarantino yn cael ei ddosbarthu gan Maverick hefyd.