Ardal yng nghanol Llundain, prifddinas Lloegr, yw Mayfair, a leolir yn Ninas Westminster.

Mayfair
Mathardal o Lundain Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster
Daearyddiaeth
LleoliadWest End Llundain Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaMarylebone, Soho Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5103°N 0.1472°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ285805 Edit this on Wikidata
Cod postW1K, W1J Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Enwir Mayfair ar ôl gŵyl flynyddol May Fair a barhaodd bythefnos, a gynhaliwyd o 1686 ar safle Shepherd Market heddiw, hyd iddo gael ei wahardd yno ym 1764. Hyd 1686, cynhaliwyd y May Fair yn Haymarket, ac ar ôl 1764, symudwyd i Fair Field yn Bow gan fod y trigolion a oedd yn weddol gyfoethog yn teimlo fod y ffair yn 'tynnu tôn y lle i lawr'.[1]

Mae Mayfair yn ffinio â Hyde Park i'r gorllewin, Oxford Street i'r gogledd, Piccadilly a Green Park i'r de a Regent Street i'r dwyrain. Datblygwyd y rhan helaeth o'r ardal rhwng canol yr 17g a chanol yr 18g, fel ardal breswyl ffasiynol, gan nifer o berchnogion, y pwysicaf o'r rhain oedd y teulu Grosvenor. Prynodd y teulu Rothschild rannau mawr o Mayfair yn ystod yr 19g. Mae rhydd-ddaliad rhan helaeth o Mayfair yn eiddo i Ystad y Goron.

Masnachol yw'r ardal yn bennaf erbyn hyn, gyda swyddfeydd mewn tai sydd wedi cael eu haddasu ac adeiladau newydd.

Mae adnabyddiaeth a bri Mayfair wedi tyfu oherwydd ei ddynodiad fel yr eiddo drytaf yn y set Brydeinig o'r gêm Monopoly.

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-18. Cyrchwyd 2010-02-12.

Dolenni allanol golygu