Band roc amgen tair rhan o Gaerdydd oedd mclusky. Roedd yr aelodau yn cynnwys Andy "Falco" Falkous (llais, gitar), Jonathan Chapple (gitar fâs, llais) a Jack Egglestone (drymiau), a gymerodd lle'r cyn-ddrymiwr Matthew Harding tuag at ddiwedd 2003.

Mclusky
Y Cefndir
TarddiadCaerdydd
Cyfnod perfformio1996 – 2005 2014 - Presennol Sioe aduniad 'mclusky', heb Jon Chapple
LabelToo Pure
Perff'au eraillFuture of the Left, Shooting At Unarmed Men, Poor People
Aelodau
Andy Falkous
Jonathan Chapple
Jack Egglestone
Cyn-aelodau
Mat Harding
Geraint Bevan

Hanes golygu

Yn ôl y band, ffurfiwyd Mclusky yn 1996 pan gyfarfu Falkous â Harding yn Athronfa Mwynwyr y Coed Duon, lleoliad yn eu tref cartref lle gafont eu ar ôl gwisgo fel mwynwyr. Cyfarfodd y ddau â Jon ychydig yn ddiweddarach, yn ngŵyl Reading pan ddeliont ef yn piso ar eu pabell yn hwyr yn y nos.

Ond, go iawn, cynigwyd mai drwy weithio â'u gilydd i Anglian Windows cyfarfu Andy a Matthew, yng nghanolfan galw y cwmni bach ffenestri-ddwbl yng Nghaerdydd. Trafodont eu uchelgeisiau cerddorol ar ôl sgwrs ynglŷn â gŵyl Reading, Rhoddodd Falkous dâp i Harding o ganeuon a oedd wedi ysgrifennu a'u recordio ar ben ei hun, ychydig yn ddiweddarach, ffurfiont fand dan yr enw Best, a enwyd ar ôl drymiwr cynnar y Beatles, Pete Best. Y chwaraewr gitar ƒias gwreiddiol oedd Geraint Bevan, hen ffrind cerddorol Harding o fand The Derelicts.

Roedd Best yn bodoli fel hyn am fron i flwyddyn cyn i Geraint adael i ganolbwyntio ar ei yrfa actio, ond cyn hynny ymddangosodd Best ar y llwyfan gyda'r band 'Myrtle', un or cymeriadau yn chwarae ar gyfer 'Myrtle' oedd y chwaraewr gitar fâs, Jonathan Chapple.

Yn fuan wedi i Geraint ymadael, darbwyllwyd Jon i ymuno â'r band; roedd hyn yn seiliedig ar demo tair trac oedd Best newydd orffen recordio yn 'Ocean Studios', Caerdydd (gwerthwyd y caset, Benedict EP, fel record cyntaf answyddogol gan y band eu hunain).

Rhyddhawyd y y sengl tair tracHuwuno, wedi i Best arwyddo gyda label o Lundain, Seriously Groovy, a rhyddhawyd eu record cyntaf swyddogol.

Newidiodd y band eu henw i Mclusky yn 1999, gan ryddhau eu halbwm lled cyflawn, My Pain and Sadness is More Sad and Painful Than Yours, yn 2000 ar yr imprint Fuzzbox cyn ennill canmoliaeth rhyngwladol ar gyfer eu albwm, Mclusky Do Dallas, yn 2002. Yn 2004, rhyddhawyd eu trydydd albwm, The Difference Between Me and You Is That I'm Not on Fire i feirniadaethau oedd, ar y cyfan, yn ganmolog.

Gweithiont yn aml gyda'r cynhyrchydd Steve Albini, gall glywed dylanwad ar recordiau Mclusky o'i waith gyda grwpiau enwog Nirvana, y Pixies a The Jesus Lizard, ymhlith bandiau megis Big Black a Shellac.

Gwahaniad golygu

Gwahanodd y band ar y 7 Ionawr 2005, gyda datganiad gan Falco ar wefan y band ar y 10 Ionawr:

The three piece rock band known as mclusky have disbanded, as of Friday Ionawr 7th, 2005. The reason for this parting is private, though probably not as entertaining as you'd imagine. Personally, I would like to thank all the people, places and times that occurred on or near us. I'm grateful for the love and to a lesser degree, the hate. There'll be more music soon, from all of us.

Dywedwyd prin ddim am y rhesymau tu ôl i'r gwahaniad, ond daeth i'r amlwg yn ddiweddarach fod tensiynau wedi codi rhwng Falco a Chapple. Gall ddilyn gwraidd y tensiwn hyn at ddigwyddiad yn 2004, pan ddygwyd holl offer y band yn Arizona, tra'r oeddent ar daith o gwmpas yr Yr Unol Dalieithau (nid yw'r offer, gwerth dros £5000 wedi cael ei ddarganfod hyd heddiw).

Ar ôl Mclusky golygu

Roddodd Jonathan Chapple lawer o amser ac egni i'w fand arall, Shooting At Unarmed Men, cyn symud i fyw i Awstralia yn Ebrill 2006. Does dim gwybodaeth os fydd Chapple yn dod yn ôl i fyw i Brydain, ond tuag ddiwedd 2006, ail-ffurfiwyd Shooting At Unarmed Men yn Awstralia gan Chapple, gyda adran rythm newydd. Maent wedi bod yn chwarae gigiau ar draws Melbourne.

Mae Falkous a Egglestone yn ysgrifennu cyfansoddiadau newydd ar y cyd â Kelson Mathias o fand arall o Gaerdydd sydd wedi gwahanu, Jarcrew, cymerodd Mathias le Chapple fel chwarawr gityar fâs, ond rhoddwyd ynrhyw glecian, mai ond cymryd ei le ydoedd, i'r fai, pan ddaeth cyfansoddiadau newydd y band i'r olwg gyda sain mwy swnllyd a thwist upbeat, a adnabyddwyd Jarcrew amdani orau. Enw newydd swyddogol y band ydy Future of the Left (ar ôl 18 mis dan yr enw cudd "Jarclusky"). ac mae'nt wedi cael derbyniaeth dda gan ffaniau y ddau fand gynt. Chwaraeodd y band eu gig cyntaf mewn cyfrinach yn Gorffennaf 2006, dan y ffugenw The Mooks Of Passim, ond oherwydd agwedd gyfrinachol Andrew Falkous, doedd fawr o neb yn ymwybodol ohni nes ar ôl y gig. Rhyddhaodd y band newydd eu sengl cyntaf, Fingers Become Thumbs!/The Lord Hates A Coward ar label Too Pure yn mis Ionawr 2007, ac mae albwm i'w ddilyn yn y Gwanwyn. Ymunodd Harding â band arall o Gaerdydd, Transposer (adnabyddir hwy heddiw dan yr enw The Kabuki Mono) yn fuan ar ôl ymadael â Mclusky, mae'n byw yng Nghernyw ar y hyn o bryd ac wedi ymuno â band roc pync Bugga yn ddiweddar. Maent am ryddhau eu albwm cyntaf yn fuan eleni, recordwyd yr albwm gan Dare Mason sy'n enwog am recorio band roc indie Placebo.

Cafodd casgliad o seglau Mclusky, Mcluskyism, ei ryddhau yn Chwefror 2006; a rhyddhawyd yn gyfyngedig gyda dau grynoddisg ychwanegol o'u caneuon prin a recordiau byw o'u perfformiadau byw yn Undeb Prifysgol Llundain (Ymddangosodd y band unwaith ar ôl hyn ar 1 Rhagfyr 2004 wrth gefnogi Shellac yn y Scala yn Llundain). Hwn, yn ddi-gwestiwn yw pennod olaf stori naw mlynedd Mclusky, fel datganai Falco yn llinallau mewnol clawr Mcluskyism, "that's it, then. No farewell tour... no premature deaths (at time of writing), no live DVDs...". Gan nad yw Chapple a Falco yn siarad â'u gilydd bellach, mae'n ddiogel i ni gymryd yn ganiataol na fydd ail-undeb o'r band yn debygol.

Disgograffi golygu

Albymau swyddogol golygu

Senglau/EP swyddogol golygu

  • 1999 - Huwuno (Rhyddhawyd dan yr enw band Best)
  • 2000 - Joy
  • 2000 - Rice Is Nice
  • 2001 - Whoyouknow
  • 2001 - Lightsabre Cocksucking Blues
  • 2002 - To Hell with Good Intentions
  • 2002 - Alan Is a Cowboy Killer
  • 2003 - There Ain't No Fool in Ferguson/1956 And All That"
  • 2003 - Undress for Success (chwaraewyd y gân cyntaf dair gwaith mewn un rhaglen gan Colin Murray)
  • 2004 - That Man Will Not Hang
  • 2004 - She Will Only Bring You Happiness

Dolenni Allanol golygu