Meillionen goch
Y meillionen goch yn agos
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fabales
Teulu: Fabaceae
Is-deulu: Faboideae
Genws: Trifolium
Rhywogaeth: T. pratense
Enw deuenwol
Trifolium pratense
L.
Llond cae o feillion coch yn cael ei dyfu'n fasnachol er mwyn y rhinweddau meddygol sydd yn y planhigion.

Planhigyn blodeuol bychan ydy'r meillionen goch (Lladin: Trifolium pratense; Saesneg: Red clover) a cheir tua 300 gwahanol fath yn nheulu'r meillion. O gael llonydd, gall dyfu i uchder o 80 cm ond mae'r maint yn dibynnu ar ansawdd y pridd. Mae'r dail rhwng 15–30 mm o hyd ac 8-15mm o led, yn wyrdd gyda siap lleuad ar hanner allanol y ddeilen. Mae'r deilgoesyn (petiol) yn 1–4 cm o hyd. Pinc tywyll yw lliw'r blodyn pan mae'n ymddangos, 12-15mm o hyd.

Caiff y planhigyn ei ddefnyddio, yn draddodiadol, at nifer o anhwylderau oherwydd ei fod yn cynnwys y canlynol: calsiwm, cromiwm, magnesiwm, niacin, ffosfforws, potasiwm, thiamin a Fitamin C. Dyma'r planhigyn sy'n cynnwys fwyaf o isofflafonau o holl blanhigion y byd; (cemegolyn yw hwn sy'n hydoddi mewn dŵr ac sy'n gweithredu fel estrogen - gweler isod.

Rhinweddau meddygol golygu

Dywedir fod y blodau, o'u sychu, yn medru gwneud te iachusol sy'n dda at ddiffyg traul.[1] Fe'i defnyddir hefyd i wella poenau'r misglwyf ac osteoporosis.[2] Dywed eraill ei fod yn wych am godi fflem pan fo'r claf yn dioddef o beswch cas a hefyd i wella cengroen (psoriasis) ac ecsema .[3]

Dengys ymchwiliadau gwyddonol diweddar fod llawer o isofflafinau megis genistin yn y feillionen goch, sydd â phriodweddau tebyg iawn i estrogen ac mai dyma pam ei fod yn dda at leddfu poenau'r ddarfyddiad (menopaus) a chryfhau'r galon.[3][4]

Mae sawl ymchwil gwyddonol ar droed sy'n edrych i effaith y feillionen fechan ar gleifion sy'n dioddef o gancr.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  2. "Gwefan Saesneg 'Health Wiser'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-06. Cyrchwyd 2009-04-12.
  3. 3.0 3.1 Leung AY, Foster S. Encyclopedia of Common Natural Ingredients Used in Food, Drugs, and Cosmetics, 2d ed. New York: John Wiley & Sons, 1996, 177-8.
  4. Gwefan Saesneg Herb Wisdom
  5. Yanagihara K, Toge T, Numoto M, et al. Antiproliferative effects of isoflavones on human cancer cell lines established from the gastrointestinal tract. Cancer Res 1993;53:5815-21.

Gweler hefyd golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato