Llyfr gan Adolf Hitler ydy Mein Kampf, yn Gymraeg: Fy Mrwydr. Cyfuna'r llyfr elfennau hunangofiannol ac ideoleg gwleidyddol Hitler. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o Mein Kampf ym 1925 a'r ail gyfrol ym 1926.

Clawr yr argraffiad cyntaf o'r llyfr Mein Kampf

Yn wreiddiol, roedd Hitler eisiau galw ei lyfr yn Viereinhalb Jahre (des Kampfes) gegen Lüge, Dummheit und Feigheit, neu Pedair Blynedd a Hanner (o Frwydro) yn erbyn Celwyddau, Twpdra a Llwfrdra. Dywedir i Max Amann, pennaeth y Franz Eher Verlag a chyhoeddwr Hitler, awgrymu y fersiwn byrrach "Mein Kampf", a gyfieithir tyn aml fel "Fy Her", "Fy Ymgyrch", "Fy Mrwydr" neu "Fy Ngornest".

Dechreuodd Hitler arddweud y nofel pan cafodd ei garcharu am yr hyn yr ystyriai ef yn "droseddau gwleidyddol" wedi i'r gwrthryfel ym Munich yn Nhachwedd 1923 fethu. Wrth i Hitler barhau a'i lyfr, buan y sylweddolodd y byddai'n lyfr dwy gyfrol, gyda'r gyfrol gyntaf yn barod erbyn dechrau 1925. Dywedodd rheolwr carchar Landsberg ar y pryd fod "ef [Hitler] yn gobeithio y bydd y llyfr yn cael ei argraffu droeon, a thrwy wneud hynny yn ei alluogi i wireddu ei oblygiadau ariannol er mwyn gwaredu'r costau a gasglodd adeg ei achos llys." Pan gafodd ei ryddhau o'r carchar ar 20 Rhagfyr 1924 symudodd Hitler yn ôl i fynyddoedd yr Obersalzberg.

Prif themau golygu

Yn Mein Kampf ysgrifennodd Hitler ei y prif syniadau a ddaeth yn nes ymlaen yn sail i syniadau ac egwyddorion y Blaid Natsïaidd.

Gwrth-Semitiaeth golygu

Roedd yr Iddewon wedi cael eu herlid ers yr Oesoedd Canol yn Ewrop gan gael eu cyhuddo o wenwyno’r dŵr a hyd yn achosi’r Pla Du i ledaenu drwy Ewrop. Gan eu bod yn llwyddiannus mewn busnes ac roedd llawer ohonynt yn gyfoethog iawn roedd llawer o bobl yn genfigennus o’r Iddewon. Dywedai Hitler mai’r Iddewon oedd wedi bradychu’r Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mai hyn oedd wedi achosi’r wlad i golli’r rhyfel.

Y Prif Hil golygu

Bwriad Hitler oedd creu’r hil berffaith yn yr Almaen, sef yr hil Aryaidd. Roedd gan yr hil yma nodweddion corfforol penodol fel gwallt golau, llygaid glas dros 6 troedfedd mewn taldra ac yn athletaidd o ran corff. Yng ngolwg Hitler roedd pob hil arall yn is-raddol, sef yr Untermenschen. Golygai hyn felly bod Hitler yn credu bod angen cael gwared ar bob unigolyn nad oedd yn perthyn i’r hil berffaith yma, er enghraifft, yr Iddewon.

Cytundeb Versailles golygu

Dywedodd fod bai ar Weriniaeth Weimar, sef Llywodraeth yr Almaen adeg y Cadoediad,am lofnodi’r cytundeb. Credai Hitler bod y cytundeb a orfodwyd ar yr Almaen yn warthus ac wedi bychanu yr Almaen. Lluniwyd a llofnodwyd y cytundeb gan Brydain, Ffrainc a’r Unol Daleithiau ym Mhalas Versailles, tu allan i Baris ym Mehefin 1919. Gorfodwyd yr Almaen i dderbyn telerau’r cytundeb, sef colli byddin a llu awyr gyfan, colli tir, talu iawndal i’r Cynghreiriaid a derbyn y bai am gychwyn y rhyfel, sef y ‘cymal euogrwydd’.

Unbennaeth golygu

Yn ei hunangofiant datgelodd Hitler nad oedd yn credu mewn democratiaeth a’i fod yn credu bod gwlad ond yn medru bod yn gryf os mai dim ond unigolyn oedd yn ei harwain. Byddai rheolaeth gan yr unigolyn hynny dros bob agwedd o fywyd y wlad honno.

Comiwnyddiaeth golygu

Roedd Hitler yn casáu Comiwnyddiaeth oherwydd ei bod yn ddylanwad cryf ar y dosbarth gweithiol. Roedd y Blaid Natsïaidd yn cystadlu am gefnogaeth oddi wrth y dosbarth gweithiol gyda’r Comiwnyddion.

Lebensraum golygu

Roedd Hitler eisiau uno’r holl bobl Almaeneg eu hiaith mewn un wlad gryf. Sylweddolai y byddai’n rhaid iddo greu uniad rhwng yr Almaen ac Awstria, lle roedd llawer o siaradwyr Almaeneg, sef Anschluss, er mwyn gwireddu hyn. Yn ychwanegol at hynny, roedd eisiau concro a meddiannu tiroedd eraill er mwyn creu gofod byw, neu Lebensraum ar gyfer bobl yr Almaen.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Datblygiad yr Almaen" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 15 Mehefin 2020.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.