Meiriadog (sant)

sant Cymreig a Llydewig

Sant Celtaidd oedd Meiriadog, Llydaweg: Meriadeg, Cernyweg: Meriasek (5ed neu 6g). Mae ganddo sawl gŵyl fabsant: ar y dydd Gwener cyntaf ym Mehefin, 9 Tachwedd neu 7 Mehefin yn ôl ffynhonnell Lydewig.[1]

Meiriadog
Ganwyd628 Edit this on Wikidata
Armorica Edit this on Wikidata
Bu farw5 g Edit this on Wikidata
Gwened Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Ffenestr liw yn Llydaw, gyda llun o Sant Meiriadog

Dywed rhai ffynonellau ei fod yn enedigol o Gymru, eraill mai Llydawr oedd. Teithiodd i Gernyw lle sefydlodd gapel yn Camborne, yna symudodd (neu dychwelodd) i Lydaw, lle cysylltie ef a Plouganoù ac a Sant-Yann-ar-Biz (Traoñ Meriadeg gynt).

Ceir rhywfaint o wybodaeth amdano o Beunans Meriasek, drama mewn Cernyweg sy'n dyddio o 1504. Cysylltir ef a Cynan Meiriadog, oedd yn rheolwr Llydaw ar y pryd. Dywedir fod Cynan yn dymuno trefnu priodas wleidyddol iddo, ac i Feiriadog ffoi i Gernyw i osgoi hynny.

Dywed Dewi Roberts mai ef a roddodd ei enw i bentref Cefn Meiriadog yn Sir Ddinbych.

Llyfryddiaeth golygu

  • Dewi Roberts The old villages of Denbighshire and Flintshire (Gwasg Carreg Gwalch. 1999)

Dolenni allanol golygu

  1. A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000; Llyfrgell Genedlaethol,Cymru. Adalwyd 8 Mehefin 2017.