Mi welaf i, â'm llygad bach i

Chwarae dyfalu yw "mi welaf i, â'm llygad bach i"[1] a chwaraeir gan blant neu mewn teuluoedd. Bydd un chwaraewr yn dewis gwrthrych y gall pawb ei weld, ac yn dweud "mi welaf i, â'm llygad bach i, rhywbeth sy'n dechrau â..." ac yna llythyren gyntaf enw'r gwrthrych. Mae'n rhaid i'r chwaraewyr eraill ddyfalu'r gwrthrych, ac yn aml bydd y chwaraewr sy'n dyfalu'n gywir yn cymryd y tro nesaf. Mae nifer o deuluoedd yn chwarae'r gêm hon ar deithiau car.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gêm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.