Michael Jackson

cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Gary yn 1958

Canwr pop, diddanwr a dyn busnes oedd Michael Joseph Jackson (29 Awst 195825 Mehefin 2009). Ganwyd yn Gary, Indiana, ac roedd Michael Jackson y seithfed mab yn nheulu'r Jacksons. Dechreuodd ganu'n broffesiynol pan oedd yn 11 oed trwy ganu gyda'r grŵp Jackson 5, ar gyfer cwmni recordiau Motown yn ystod y chwedegau. Dechreuodd recordio ar ei ben ei hun yn 1971 er ei fod yn dal yn aelod o'r grŵp.

Michael Jackson
GanwydMichael Joseph Jackson Edit this on Wikidata
29 Awst 1958 Edit this on Wikidata
Gary, Indiana Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 2009 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Man preswylNeverland Ranch Edit this on Wikidata
Label recordioEpic Records, Sony Music, Motown Records, Universal Music Group, Sony BMG, Legacy Recordings, Steeltown Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Montclair College Preparatory School Edit this on Wikidata
Galwedigaethdawnsiwr, canwr-gyfansoddwr, person busnes, dyngarwr, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, hunangofiannydd, cynhyrchydd recordiau, actor ffilm, actor, entrepreneur, cerddor, artist recordio, canwr, actor llais, casglwr celf, cyfansoddwr caneuon, model, bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOff the Wall, Thriller, Bad, Dangerous, HIStory (albwm) Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr enaid, cerddoriaeth ddawns, disgo, cerddoriaeth roc, y felan, rhythm a blŵs, ffwnc, new jack swing, hip hop, cerddoriaeth roc caled, urban contemporary, samba, pop dawns Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadSammy Davis Jr., James Brown, Charles Chaplin, Fred Astaire, Diana Ross, Sam Cooke, Sly Stone, Jackie Wilson, Marcel Marceau, The Beatles Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
TadJoe Jackson Edit this on Wikidata
MamKatherine Jackson Edit this on Wikidata
PriodLisa Marie Presley, Debbie Rowe Edit this on Wikidata
PlantPrince Michael Jackson I, Paris Jackson, Prince Michael Jackson II Edit this on Wikidata
LlinachJackson family Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy Legend, International Artist Award of Excellence, Gwobr Genesis, Grammy Award for Best Male R&B Vocal Performance, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, Gwobr Grammy am y Perfformiad Lleisiol Pop Gorau gan Ddynion, Grammy Award for Record of the Year, Grammy Award for Best Male Rock Vocal Performance, Grammy Award for Best Album for Children, Gwobr Gammy Cynhyrchydd y Flwyddyn, nid Clasurol, Grammy Award for Best Music Film, Grammy Award for Song of the Year, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, Johnny Mercer Award, Grammy Award for Best R&B Song, Grammy Award for Best Male R&B Vocal Performance, Officer of the National Order of Merit, Medal of the City of Paris, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, American Choreography Awards, Rock and Roll Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.michaeljackson.com Edit this on Wikidata
llofnod

Caiff ei alw'n 'Frenin Pop'. Daeth pump o'i albymau stiwdio unawdol yn rhai o'r albymau mwyaf llwyddiannus y byd pop; Off the Wall (1979), Thriller (1982), Bad (1987), Dangerous (1991) a HIStory (1995).

Ar ddechrau'r 1980au daeth Jackson yn gymeriad amlwg ym myd cerddoriaeth boblogaidd, trwy fod yn un o'r diddanwyr African-Americanaidd cyntaf i lwyddo yn y brif ffrwd gerddorol. Gweddnewidiodd y fideo cerddorol i mewn i ryw fath o gelfyddyd, gyda fideos megis "Beat It", "Billie Jean" a "Thriller" yn hynod boblogaidd ar y sianel MTV. Sicrhaodd fideos Jackson, megis "Black or White" a "Scream" ei fod yn parhau i gael ei weld yn rheolaidd ar MTV yn ystod y '90au. Gyda'i berfformiadau byw a'i gynyrchiadau fideo, daeth technegau dawnsio Jackson a phoblogrwydd iddo, wrth iddo boblogeiddio symudiadau fel y "robot" a'r "moonwalk". Dylanwadodd ei gerddoriaeth a'i lais unigryw ar nifer o artistiaid hip hop, pop ac R&B cyfoes.

Mae Jackson wedi cyfrannu a helpu i godi miliynau o ddoleri at achosion da trwy ei sefydliad, senglau elusennol a'i gefnogaeth o 30 elusen. Fodd bynnag, mae elfennau eraill o'i fywyd personol, gan gynnwys y newid i'w bryd a'i wedd a'i ymddygiad afreolus, wedi niweidio ei ddelwedd gyhoeddus. Er iddo gael ei gyhuddo o gam-drin plant yn rhywiol ym 1993, caewyd yr achos troseddol yn sgil diffyg tystiolaeth ac ni chafwyd achos yn ei erbyn. Ar ôl hynny, priododd ddwywaith gan ddod yn dad i dri o blant. Mae'r canwr wedi dioddef problemau iechyd ers dechrau'r 1990au a cheir adroddiadau amrywiol am ei gyflwr ariannol ers diwedd y 1990au. Yn 2005, daethpwyd ag achos arall o gam-drin plant yn rhywiol yn ei erbyn, ynghyd â throseddau eraill ond cafodd ei ffeindio'n ddieuog.

Fel un o'r ychydig artistiaid sydd wedi ei gynnwys yn y Rock and Roll Hall of Fame ddwywaith, mae ei lwyddiannau eraill yn cynnwys nifer o Recordiau Guiness y Byd - gan gynnwys "Y Diddanwr Mwyaf Llwyddiannus Erioed", 13 Gwobr Grammy, 13 sengl yn cyrraedd Rhif 1 yn ei yrfa solo a gwerthiant o dros 750 miliwn o unedau yn fyd-eang. Mae bywyd personol Jackson, ynghyd â'i yrfa lwyddiannus wedi ei wneud yn rhan o ddiwylliant poblogaidd am bron i bedwar degawd. Caiff ei ystyried fel un o ddynion enwocaf y byd.

Bywgraffiad golygu

1958 - 1975: Ei Flynyddoedd Cynnar a'r Jackson 5 golygu

Ganwyd Michael Joseph Jackson yn Gary, Indiana (un o faestrefi diwydiannol Chicago, Illinois) i deulu dosbarth gweithiol ar y 29ain o Awst, 1958. Joseph Walter "Joe" Jackson oedd ei dad, Katherine Esther (Scruse gynt) oedd ei fam. Roedd Jackson yn seithfed o naw o blant, gan gynnwys Rebbie, Jackie, Tito, Jermaine, La Toya, Marlon, Randy a Janet. Gweithiwr mewn melin ddur oedd Joseph Jackson ac arferai berfformio mewn band R&B o'r enw The Falcons gyda'i frawd Luther. Magwyd Jackson fel Tystion Jehovah gan ei fam.

Ers roedd yn blentyn ifanc, cafodd Jackson ei gam-drin yn gorfforol ac yn feddyliol gan ei dad, a oedd yn ei orfodi i ymarfer yn ddi-baid, yn ei chwipio ac yn galw enwau arno. Cafodd y cyfnod hwn o gam-drin effaith ar Jackson trwy gydol ei fywyd fel oedolyn.[1] Mewn un achos, dywedodd Marlon Jackson fod Joseph wedi dal Jackson wyneb i waered gan ei "pummelled him over and over again with his hand, hitting him on his back and buttocks".[2] Byddai Joseph yn baglu'n aml, neu'n gwthio'r plant gwrywaidd i mewn i waliau. Un noson pan oedd Jackson yn cysgu, dringodd Joseph i mewn trwy ffenestr agored yr ystafell wely. Dringodd Joseph i mewn i'r ystafell gyda mwgwd amdano gan sgrechian a gweiddi. Dywedodd Joseph ei fod eisiau dysgu gwers i'w blant i beidio â gadael y ffenestr yn agored pan fyddent yn cysgu. Am flynyddoedd wedi'r digwyddiad, dioddefodd Jackson hunllefau am gael ei herwgipio o'i ystafell wely.

Mewn cyfweliad gyda Oprah Winfrey ym 1993, trafododd Jackson ei blentyndod yn agored. Dywedodd yr arferai grio o unigrwydd yn ystod ei blentyndod ac weithiau byddai'n chwydu pan welai ef ei dad. Mewn cyfweliad arall, Living with Michael Jackson (2003), cuddiodd y canwr ei wyneb tu ôl ei ddwylo a dechreuodd grio wrth drafod y cam-drin yn ei blentyndod. Meddai Jackson yr arferai Joseph eistedd ar gadair gyda gwregys yn ei ddwylo wrth i Jackson a'i frodyr ymarfer a dywedodd "if you didn't do it the right way, he would tear you up, really get you."

Arddangosodd Jackson ddawn gerddorol yn gynnar iawn yn ei fywyd, gan berfformio gerbron cyfeillion ysgol ac eraill mewn cyngerdd Nadolig pan oedd yn bum mlwydd oed. Ym 1964, ymunodd Jackson a Marlon â'r Jackson Brothers - band a ffurfiwyd gan y brodyr Jackie, Tito a Jermaine — fel cerddorion cefnogol yn chwarae'r congâu a'r tambwrin. Pan oedd yn wyth mlwydd oed, dechreuodd Jackson a Jermaine gymryd yr awenau fel y prif leiswyr, a newidiwyd enw'r grŵp i The Jackson 5. Teithiodd y band o amgylch Canolbarth yr Unol Daleithiau yn helaeth rhwng 1966 a 1968. Arferai'r band berfformio'n rheolaidd mewn clybiau a lleoliadau ar gyfer pobl dduon. Ym 1966, enillodd y band sioe dalentau lleol gyda'i fersiynau hwy o ganeuon Motown a chân James Brown, "I Got You (I Feel Good)", gyda Michael fel prif lais.

Recordiodd The Jackson 5 nifer o ganeuon, gan gynnwys "Big Boy", ar gyfer label recordiau lleol o'r enw Steeltown ym 1967. Ym 1968 arwyddodd y grŵp gytundeb gyda Motown Records. Yn ddiweddarach, disgrifiodd y cylchgrawn Rolling Stone y Michael ifanc fel "a prodigy" a bod ganddo "overwhelming musical gifts". Dywedodd y cylchgrawn fod Michael yn "quickly emerged as the main draw and lead singer" ar ôl iddo ddechrau dawnsio a chanu gyda'i frodyr. Er i Michael ganu gyda "child's piping voice, he danced like a grown-up hoofer and sang with the R&B/gospel inflections of Sam Cooke, James Brown, Ray Charles and Stevie Wonder". Torrodd y grŵp record yn y siart pan aeth eu pedwar sengl gyntaf ("I Want You Back", "ABC", "The Love You Save" a "I'll Be There") i rif un y Billboard Hot 100.

Gan ddechrau ym 1972, rhyddhaodd Michael gyfanswm o bedwar albwm stiwdio solo gyda chwmni Motown Records. Cafodd y rhain eu rhyddhau fel rhan o ryddfraint y Jackson 5, a chynhyrchwyd senglau llwyddiannus fel "Got to Be There", "Ben" a fersiwn newydd o gân Bobby Day "Rockin' Robin". Dechreuodd werthiant y band leihau ym 1973, a dechreuodd aelodau'r band deimlo ychydig o ddrwgdeimlad am y ffaith fod Motown yn gwrthod rhoi rheolaeth neu fewnbwn creadigol iddynt. Gadawodd y Jackson 5 label Motown Records ym 1975.

1976–1981: Symud i Epic ac Off the Wall golygu

Arwyddodd y Jackson 5 gytundeb newydd gyda CBS Records ym Mehefin 1975. O ganlyniad i gamau cyfreithiol, newidiwyd enw'r grŵp i The Jackson. Parhaodd y band i deithio'n rhyngwladol, gan ryddhau chwe albwm newydd rhwng 1976 a 1984. O 1976 tan 1984, Michael Jackson oedd prif gyfansoddwr y grŵp, gan ysgrifennu caneuon llwyddiannus fel "Shake Your Body (Down to the Ground)", "This Place Hotel" a "Can You Feel It".

 
Albwm stiwdio Michael Jackson -"Off The Wall"

Ym 1978, serennodd Jackson fel y Bwgan Brain yn y ffilm sioe gerdd, The Wiz. Trefnwyd y sgôrau cerddorol gan Quincy Jones, a greodd bartneriaeth gyda Jackson wrth gynhyrchu'r ffilm, a chytunodd i gynhyrchu albwm solo'r canwr, Off the Wall. Ym 1979, torrodd Jackson ei drwyn wrth wneud symudiad dawns cymhleth. Nid oedd y rhinoplasti a ddilynodd yn llwyddiant, a chwynai Jackson am anawsterau anadlu a fyddai'n effeithio'i yrfa. Cafodd ei gyfeirio at Dr. Steven Hoefflin, a gyflawnodd ail rhinoplasti ar Jackson ynghyd â llawdriniaethau eraill yn y dyfodol.

Cyd-gynhyrchodd Jones a Jackson Off the Wall. Roedd cyfansoddwyr y caneuon yn cynnwys Jackson, Rod Temperton o Heatwave, Stevie Wonder a Paul McCartney. Rhyddhawyd yr albwm ym 1979 a dyma oedd yr albwm cyntaf i gael pedair cân o'r albwm i gyrraedd Deg Uchaf yr Unol Daleithiau, gan gynnwys "Don't Stop 'Til You Get Enough" a "Rock with You". Er gwaethaf llwyddiant masnachol yr albwm, teimlai y dylai Off The Wall fod wedi cael mwy o ddylanwad ac roedd yn benderfynol y byddai ei albwm nesaf yn llwyddo i wneud hynny.

1982–1985: Thriller, Motown 25, We Are the World a'i yrfa fel dyn busnes golygu

Ym 1982, cyfrannodd Jackson y gân "Someone In the Dark" ar gyfer llyfr stori'r ffilm E.T. the Extra-Terrestrial; enillodd y record Grammy am yr Albwm Gorau ar gyfer Plant.[3] Yn yr un flwyddyn, rhyddhaodd Jackson ei ail albwm gyda chwmni Epic sef Thriller. Arhosodd yr albwm yn neg uchaf y siart Billboard 200 am 80 wythnos yn olynol, gan aros ar frig y siart am 37 wythnos. Dyma oedd yr albwm gyntaf i gynnwys saith sengl a aeth i ddeg uchaf y Billboard Hot 100, gan gynnwys "Billie Jean", "Beat It" a "Wanna Be Startin' Somethin'". Dywedodd yr RIAA i "Thriller" werthu dros 28 miliwn o unedau, gan roi statws Diemwnt Dwbl i'r albwm yn yr Unol Daleithiau.[4] Yn aml, cyfeirir at yr albwm fel yr albwm a werthodd fwyaf o gopïau erioed, gyda gwerthiant o rhwng 47 miliwn a 109 miliwn o gopïau.[5]

Nododd cyfreithiwr Jackson mai gan Jackson oedd y gyfran uchaf o freindaliadau yn y diwydiant cerddorol bryd hynny; tua $2 am bob albwm a werthwyd. Roedd hefyd yn gwneud elwa aruthrol o gryno ddisgiau neu drwy werthiant The Making of Michael Jackson's Thriller; rhaglen ddogfen a gynhyrchwyd gan Jackson a John Landis. Wedi'i hariannu gan MTV, gwerthodd y rhaglen ddogfen dros 350,000 o gopïau mewn ychydig fisoedd yn unig. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, dechreuwyd gwerthu nwyddau newydd-deb fel y ddol Michael Jackson, a gafodd ei gwerthu ym Mai 1984 am bris o $12. Erys Thriller yn rhan o ddiwylliant Americanaidd; dywed bywgraffydd Jackson, J. Randy Taraborrelli, "At some point, Thriller stopped selling like a leisure item—like a magazine, a toy, tickets to a hit movie—and started selling like a household staple."

Dywedodd Gil Friesen, Llywydd A&M Records, "the whole industry has a stake in this success". Cynyddodd Thriller bwysigrwydd albymau, ond roedd cael nifer o ganeuon llwyddiannus wedi newid y meddylfryd ynglŷn â'r nifer o senglau a ddylai gael eu rhyddhau. Esboniodd cylchgrawn Time fod "the fallout from Thriller has given the [music] business its best years since the heady days of 1978, when it had an estimated total domestic revenue of $4.1 billion". Crynhodd Time ddylanwad Thriller gan ddweud ei fod yn "restoration of confidence" i ddiwydiant a oedd yn ymylu ar "the ruins of punk and the chic regions of synthesizer pop". Disgrifiodd y cylchgrawn ddylanwad Jackson bryd hynny fel "Star of records, radio, rock video. A one-man rescue team for the music business. A songwriter who sets the beat for a decade. A dancer with the fanciest feet on the street. A singer who cuts across all boundaries of taste and style and color too".[ Galwodd The New York Times ef fel "musical phenomenon", gan ddatgan "in the world of pop music, there is Michael Jackson and there is everybody else". Yn ôl The Washington Post, paratodd yr albwm Thriller y tir ar gyfer artistiaid eraill fel Prince.

Ar y 25ain o Fawrth, 1983, perfformiodd Jackson ar y Motown 25. Yno gwnaeth ei ddawns enwog, y "moonwalk" - perfformiad a wyliwyd gan 47 miliwn o wylwyr yn ystod y darllediad cyntaf. Dywedodd The New York Times, "The moonwalk that he made famous is an apt metaphor for his dance style. How does he do it? As a technician, he is a great illusionist, a genuine mime. His ability to keep one leg straight as he glides while the other bends and seems to walk requires perfect timing".[6]

Wrth ffilmio hysbyseb ar gyfer Pepsi Cola ar y 27ain o Chwefror, 1984 yn yr Awditoriwm Shrine yn Los Angeles, cafodd Jackson ddamwain a dioddefodd losgiadau o'r drydedd radd i'w ben wedi i beiriant tân gynnau ei wallt yn ddamweiniol. Am fod hyn wedi digwydd gerbron lluoedd a'i gefnogwyr a oedd yno er mwyn rhoi'r argraff eu bod mewn cyngerdd, adroddwyd yr hanes yn helaeth gan y wasg a chafodd Jackson cryn dipyn o gefnogaeth a chydymdeimlad wrth y cyhoedd. Derbyniodd Jackson $1.5 miliwn wrth PepsiCo a defnyddiodd ef i agor y "Michael Jackson Burn Center" a oedd yn cynorthwyo pobl gyda llosgiadau difrifol. Yn fuan ar ôl y ddamwain hon, cafodd Jackson ei drydedd rhinoplasti a daeth yn llawer mwy ymwybodol ynglŷn â'i bryd a'i wedd.

 
Michael Jackson gyda'r Arlywydd Americanaidd Ronald Reagan a'i wraig Nancy, yn 1984

Ar y 14eg o Fai, 1984 gwahoddwyd Jackson i'r Tŷ Gwyn er mwyn derbyn gwobr wrth yr Arlywydd Americanaidd Ronald Reagan. Rhoddwyd y wobr iddo am gefnogi elusennau a oedd yn helpu pobl i ddelio gyda chaethiwed i alcohol neu gyffuriau. Enillodd Jackson wyth wobr Grammy ym 1984. Yn wahanol i'r albymau a ddilynodd, nid oedd gan Thriller daith swyddogol i gyd-fynd â'r albwm, ond roedd y Daith Victory ym 1984 yn fodd o ddangos ei ddeunydd newydd i dros ddwy filiwn o Americanwyr. Rhoddodd Jackson ei gyfran o $5 miliwn am ei ran yn y Daith Victory i achosion da.

Cyd-ysgrifennodd Jackson a Lionel Richie y sengl elusennol "We Are the World", a chafodd ei rhyddhau i godi arian i dlodion Affrica a'r UDA. Roedd ef yn un o'r 39 o gantorion a berfformiodd y gân. Daeth y gân yn un o'r senglau a werthodd orau erioed, gan werthu bron 20 miliwn o gopïau a chan wneud miliynau o ddoleri i bobl a oedd yn newynu. Dyma oedd y tro cyntaf y gwelwyd Jackson fel dyngarwr.

Tra'n gweithio gyda Paul McCartney ar ddwy sengl arall "The Girl Is Mine" a "Say Say Say", daeth y ddau ohonynt yn ffrindiau, gan ymweld â'i gilydd yn achlysurol. Mewn un drafodaeth, soniodd McCartney wrth Jackson am yr arian roedd wedi gwneud o gatalogau cerddorol; roedd yn ennill tua $40 miliwn y flwyddyn o ganeuon pobl eraill. Dechreuodd Jackson yrfa fel prynwr gyrfaol, yn prynu a dosbarthu hawliau cyhoeddi i gerddoriaeth gan artistiaid amrywiol. Yn fuan ar ôl hyn, rhoddwyd Northern Songs, catalog cerddorol a gynhwysai miloedd o ganeuon gan gynnwys ôl-gatalog The Beatles a chaneuon gan Elvis Presley, ar y farchnad i'w gwerthu.

Mynegodd Jackson ddiddordeb yn syth ond cafodd ei rybuddio y byddai cystadleuaeth frwd am y catalog. Dywedodd Jackson, "I don't care. I want those songs. Get me those songs Branca [ei gyfreithiwr]". Cysylltodd Branca â chyfreithiwr McCartney, a gadarnhaodd nad oedd diddordeb gan ei gleient ef am fod y pris yn rhy uchel. Pan ddechreuodd Jackson negydu, newidiodd McCartney ei feddwl a cheisiodd berswadio Yoko Ono i ymuno ag ef yn ei gais. Gwrthododd hi ac felly tynnodd McCartney allan o'r trafodaethau. Yn y pen draw, enillodd Jackson ar ôl trafodaethau a barodd am ddeng mis, a phrynodd y catalog am $47.5 milliwn. Pan ddarganfyddodd McCartney, dywedodd, "I think it's dodgy to do things like that. To be someone's friend and then buy the rug they're standing on". Mewn ymateb i'r datganiad hwnnw, dywedodd bywgraffydd Jackson, J. Randy Taraborrelli fod McCartney wedi gwneud miliynau o ddoleri o gerddoriaeth pobl eraill. Bryd hynny, roedd gan McCartney fwy o arian na Jackson hefyd ac felly gallai fod wedi gwneud cynnig sylweddol am ei gerddoriaeth ei hun ac ni fyddai wedi dioddef anawsterau ariannol o'r ffaith mai Jackson oedd bellach yn berchen ar y catalog.

1986–1990: Y Papurau Tabloid, ei ymddangosiad, Bad, hunangofiant a ffilmiau golygu

Ym 1986, honnodd y papurau tabloid fod Jackson yn cysgu mewn siambr ocsigen er mwyn arafu'r broses heneiddio; cafwyd llun ohono yn gorwedd mewn blwch gwydr. Er bod yr honiad yn anghywir, hybodd Jackson y stori gelwyddog ei hun. Roedd y canwr yn hyrwyddo ei ffilm newydd Captain EO ac roedd yn awyddus i gyfleu delwedd wyddonias ohono ef ei hun. Cafodd Jackson bedwerydd rhinoplasti ac, am ei fod eisiau nodweddion gwrywaidd cafodd fwlch wedi'i roi yn ei ên. Yna, serennodd yn y ffilm 3D "Captain EO" a gyfarwyddwyd gan Francis Ford Coppola. Ar y pryd, dyma oedd y ffilm ddrutaf a gynhyrchwyd munud-am-funud a chafodd ei arddangos ym mharciau thema Disney. Dangosodd Disneyland y ffilm am bron i 11 mlynedd yn ei hardal Tomorrowland, tra bod Walt Disney World wedi dangos y ffilm yn eu parc thema Epcot o 1986 tan 1994.

Prynodd Jackson fwnci o'r enw Bubbles fel anifail anwes, gweithred a hybodd ei ddelwedd ecsentrig. Yn 2003, dywedodd y canwr fod Bubbles yn rhannu ei dŷ bach ac yn glanhau ei ystafell wely. Yn ddiweddarach, adroddwyd fod Jackson wedi prynu esgyrn The Elephant Man. Er nad oedd yr honiadau hyn yn wir, denodd Jackson sylw'r wasg dabloid. Arweiniodd hyn iddo gael y ffug-enw "Wacko Jacko", ffugenw y byddai Jackson yn dod i gasau yn hwyrach. Wrth sylweddoli ei gamgymeriad, peidiodd Jackson ryddhau straeon ffug i'r wasg. Fodd bynnag, dechreuodd y wasg greu eu straeon eu hunain am eu bod yn sylweddoli faint o arian oedd i'w wneud drwy wneud hyn.

Yn ystod ei blentyndod, roedd gan groen Jackson liw brown-canolig, ond gan ddechrau yn y 1980au, dechreuodd liw ei groen welwi. Denodd hyn sylw sylweddol wrth y wasg, gan gynnwys honiadau fod Jackson yn cannu ei groen. Yng nghanol y 1980au, dangosodd profion meddygol fod gan Jackson vitiligo a lupus a gwnaeth y ddau gyflwr ef yn sensitif i olau'r haul. Roedd y driniaeth a ddefnyddiodd ar gyfer y cyflyrrau yn goleuo ei groen ymhellach a chyda'r defnydd o golur er mwyn cuddio darnau amlwg, gall ymddangos yn olau iawn. Mae cyfansoddiad ei wyneb wedi newid hefyd; mae nifer o lawfeddygon wedi awgrymu fod Jackson wedi derbyn nifer o lawdriniaethau trwynol, codiad o'i dalcen, gwefusau teneuach a thriniaeth ar esgyrn ei fochau. Aeth Jackson yn deneuach ar ddechrau'r 1980au o ganlyniad i gyfnodau o golli pwysau. Dywedodd tystion fod Jackson yn benysgafn yn aml a arweiniodd at süon ei fod yn dioddef o anorecsia nerfosa. Daeth cyfnodau o golli pwysau yn broblem barhaus yn hwyrach yn ei fywyd hefyd. Mae rhai arbenigwyr meddygol wedi datgan eu cred fod y canwr yn dioddef o anhwylder dysmorphig corfforol, cyflwr seicolegol lle nad oes gan y dioddefwr unrhyw gysyniad o sut y cânt eu gweld gan bobl eraill.

"Why not just tell people I'm an alien from Mars. Tell them I eat live chickens and do a voodoo dance at midnight. They'll believe anything you say, because you're a reporter. But if I, Michael Jackson, were to say, "I'm an alien from Mars and I eat live chickens and do a voodoo dance at midnight", people would say, "Oh, man, that Michael Jackson is nuts. He's cracked up. You can't believe a damn word that comes out of his mouth".

Michael Jackson [7]

Ym 1987 rhyddhawyd yr albwm hir-ddisgwyliedig Bad, sef albwm cyntaf Jackson mewn pum mlynedd. Roedd gwerthiant yr albwm yn llai na Thriller ond roedd yn llwyddiant sylweddol serch hynny. Yn yr Unol Daleithiau, roedd saith o ganeuon yr albwm yn llwyddiannus, gyda phump ohonynt ("I Just Can't Stop Loving You", "Bad", "The Way You Make Me Feel", "Man in the Mirror" a "Dirty Diana") yn cyrraedd rhif un ar y siart Billboard Hot 100, a oedd yn nifer llawer mwy nag unrhyw albwm arall. Erbyn 2008, roedd "Bad" wedi gwerthu dros 30 miliwn o gopïau yn fyd-eang.

 
Siaced filwrol euraidd a gwregys a wisgwyd gan Jackson yn ystod y cyfnod "Bad"

Dechreuodd daith ryngwladol "Bad" ar y 12fed o Fedi, 1987 a gorffennodd ar y 27ain o Ionawr, 1989.[8] Yn Japan, cynhaliwyd 14 cyngerdd a ddenodd dros 570,000 o bobl, a oedd bron i dair gwaith yn fwy na'r record flaenorol o 200,000 mewn taith unigol.[9] Torrodd Jackson y Record Guiness y Byd pan fynychodd 504,000 saith cyngerdd yn Stadiwm Wembley. Perfformiodd gyfanswm o 123 cyngerdd i gynulleidfa o 4.4 miliwn o bobl, a thorrodd Record Guiness y Byd arall am wneud $125 miliwn o'r daith. Yn ystod y daith, gwahoddodd blant difreintiedig i wylio'r sioe yn rhad ac am ddim a rhoddodd gyfraniadau i ysbytai, cartrefi i blant amddifad ac elusennau eraill.

Ym 1988, rhyddhaodd Jackson ei hunangofiant cyntaf, "Moon Walk" a gymrodd bedair blynedd i'w ysgrifennu. Soniodd Jackson am ei blentyndod, ei brofiadau gyda The Jackson 5 a'r gam-driniaeth a ddioddefodd pan oedd yn blentyn. Soniodd hefyd am ei lawdriniaethau cosmetig, gan ddweud ei fod wedi cael dwy driniaeth rhinoplasti a chread bwlch yn ei ên. Yn ei lyfr, priodolodd y newid yn strwythur ei wyneb i laslencyndod, colli pwysau, deiat llysieuol cadarn, newid yn steil ei wallt a goleuo llwyfan. Cyrhaeddodd "Moonwalk" frig y rhestr o werthwyr gorau The New York Times. Yna, rhyddhaodd y canwr ffilm o'r enw Moonwalker a gynhwysai fideos cerddorol, deunydd byw, a ffilm lawn a serennai Jackson a Joe Pesci. Arhosodd y ffilm ar frig y Siart Fideo Caset Cerddorol Billboard, gan aros yno am 22 wythnos. Fe'i disodlwyd yn y pen draw gan Michael Jackson: The Legend Continues.

Ym Mawrth 1988, prynodd Jackson dir ger Santa Ynez, Califfornia er mwyn adeiladu ei Ransh Neverland am gost o $17 miliwn. Mae'n ddarn o dir 2,700 erw (11 km2) gydag olwyn Feris, sŵ egsotig, sinema a 40 o staff diogelwch. Yn 2003, rhoddwyd gwerth o tua $100 miliwn.[10] Ym 1989, amcangyfrifwyd fod enillion blynyddol Jackson o werthiant ei albymau, hysbysebion a chyngherddau yn $125 miliwn.[11] Yn fuan wedi hyn, Jackson oedd y Gorllewinwr cyntaf i ymddangos mewn hysbyseb deledu yn Rwsia.[12]

O ganlyniad i lwyddiant Jackson, derbyniodd y ffug-enw "Brenin Pop" gan yr actores a ffrind Elizabeth Taylor pan gyflwynodd wobr "Artist y Ddegawd" iddo ym 1989, gan ddweud mai ef oedd "the true king of pop, rock and soul".[13] Cyflwynodd Arlywydd George H. W. Bush gwobr arbennig "Artist y Ddegawd" y Tŷ Gwyn i Jackson am ei ddylanwad yn ystod y 1980au; canmolodd Bush Jackson am ei luoedd o gefnogwyr ymysg llwyddiannau eriall. O 1985 tan 1990, cyfrannodd Jackson $500,000 i Gronfa Coleg Negro Unedig, ac aeth holl elw'r sengl "Man in the Mirror" i elusennau.[14]

Derbyniodd fersiwn fyw Jackson o "You Were There" yn nathliad penblwydd Sammy Davis Jr. yn 60 oed enwebiad am Wobr Emmy.

1991–1992: Dangerous a'r Super Bowl golygu

Ym Mawrth 1991, adnewyddodd Jackson ei gytundeb gyda Sony am $65 miliwn; cytundeb a dorrodd bob record ar y pryd. Rhyddhaodd ei wythfed albwm Dangerous ym 1991. Erbyn 2008, roedd Dangerous wedi gwerthu 7 miliwn o gopïau yn yr Unol Daleithiau ac wedi gwerthu 30 miliwn copi yn fyd-eang; gwerthodd yr albwm yn gynt na Bad. Yn yr Unol Daleithiau, sengl cyntaf yr albwm "Black or White" oedd llwyddiant fwyaf yr albwm, gan gyrraedd rhif un ar siart y Billboard Hot 100 ac aros yno am saith wythnos. Treuliodd yr ail sengl, "Remember the Time" wyth wythnos ym mhump uchaf yr UD, gan gyrraedd rhif tri siart senglau'r Billboard Hot 100. Ym 1993, perfformiodd Jackson y gân mewn cadair olwyn yng Ngwobrau Soul Train gan ddweud iddo gael anaf mewn ymarferion. Yn y Deyrnas Unedig a rhannau eraill o Ewrop, "Heal the World" oedd y gân fwyaf llwyddiannus; gwerthodd 450,000 o gopïau yn y DU a threuliodd bum wythnos yn rhif dau ym 1992.

Sefydlodd Jackson y "Heal the World Foundation" ym 1992. Daeth yr elusen a phlant difreintiedig i ransh Jackson, i fynd ar y reidiau yn y ffair roedd Jackson wedi adeiladu yno ar ôl iddo ei brynu. Yn ogystal â hyn, danfonodd yr elusen filiynau o ddoleri i helpu plant a oedd o dan fygythiad rhyfel ac afiechydon ledled y byd. Dechreuodd Daith Ryngwladol Dangerous ar y 27ain o Fehefin, 1992 a gorffennodd ar yr 11eg o Dachwedd, 1993. Perfformiodd Jackson mewn 67 cyngerdd i gynulleidfa o 3.5 miliwn o bobl. Aeth yr holl elw o'r cyngherddau hyn i'r "Heal the World Foundation", gan godi miliynau o bunnoedd o gymhorthdal. Gwerthodd yr hawliau darlledu i'r daith i HBO am $20 miliwn. Yn dilyn salwch a marwolaeth Ryan White, tynnodd Jackson sylw'r cyhoedd i HIV/AIDS, pwnc a oedd yn ddadleuol iawn ar y pryd. Ymbiliodd yn gyhoeddus gyda Gweinyddiaeth yr Arlywydd Bill Clinton i roi mwy o arian i elusennau ac ymchwil HIV/AIDS.

Tra'n ymweld ag Affrica, ymwelodd Jackson â nifer o wledydd, gan gynnwys yr Aifft a Gabon. Cafodd groeso twym-galon o dros 100,000 o bobl, gyda rhai ohonynt yn cario baneri a ddywedai "Welcome Home Michael".

Daeth un o berfformiadau mwyaf enwog Jackson yn ystod hanner amser y Super Bowl XXVII. Wrth i'r perfformiadau ddechrau, saethwyd Jackson i'r llwyfan wrth i dân gwyllt ffrwydro y tu ôl iddo. Glaniodd ar gynfas gan aros yno heb symud, gyda'i ddyrnau ynghau fel petai'n ddelw. Gwisgai wisg filwrol du ac aur a sbectol haul. Arhosodd yno heb symud am sawl munud tra cymeradwyai'r dorf. Yna'n araf, dechreuodd dynnu ei sbectol haul, gan eu taflu ymaith a dechreuodd ganu a dawnsio. Roedd ei berfformiad yn cynnwys pedair cân: "Jam", "Billie Jean", "Black or White" a "Heal the World". Dyma oedd y tro cyntaf i niferoedd gwylio'r Superbowl gynyddu yn ystod hanner amser, a gwyliwyd y perfformiad gan 135 miliwn o Americanwyr.

Rhoddwyd Gwobr "Living Legend" i Jackson yn y 35ain Seremoni Gwobrwyo Flynyddol y Grammy yn Los Angeles. Enwebwyd "Black or White" am y perfformiad lleisiol gorau. Derbyniodd "Jam" ddau enwebiad am y Perfformiad Lleisiol R&B Gorau a'r Gân R&B Orau.

1993–1994: Cyhuddiadau o Gam-driniaeth Rywiol a'i Briodas golygu

Rhoddodd Jackson gyfweliad 90 munud i Oprah Winfrey yn Chwefror 1993, sef ei gyfweliad teledu cyntaf ers 1979. Gwingodd tra'n siarad am ei blentyndod a'r modd y cafodd ei gam-drin gan ei dad; credai ei fod wedi colli allan ar nifer o'i flynyddoedd fel plentyn, a chyfaddefodd ei fod yn crio oherwydd unigrwydd. Gwadodd honiadau blaenorol ei fod wedi prynu esgyrn y Dyn Eliffant a'i fod yn cysgu mewn siambr ocsigen hyperbarig. Parhaodd yr adlonwr i wadu honiadau ei fod yn cannu ei groen, gan gyfaddef am y tro cyntaf fod ganddo vitiligo. Gwyliwyd y rhaglen gan 90 miliwn o Americanwyr. Dechreuodd y rhaglen drafodaeth ehangach yn yr Unol Daleithiau ynglŷn â vitiligo, cyflwr cymharol anghyfarwydd cyn hyn. Dychwelodd Dangerous i'r siart am yr eildro, dros ddegawd wedi'r rhyddhad cyntaf.

Cyhuddwyd Jackson o gam-drin plant yn rhywiol gan blentyn 13 mlwydd oed, Jordan Chandler a'i dad Evan Chandler. Roedd y cyfeillgarwch rhwng Jackson ac Evan Chandler wedi dirwyn i ben. Rhyw bryd yn ddiweddarach, recordiwyd Evan Chandler yn dweud, ymysg pethau eraill "If I go through with this, I win big-time. There's no way I lose. I will get everything I want and they will be destroyed forever...Michael's career will be over".[15] Flwyddyn ar ôl iddynt gyfarfod, ac yntau o dan ddylanwad tawelyn dadleuol, dywedodd Jordan Chandler wrth ei dad fod Jackson wedi cyffwrdd a'i bidyn.[16] Bwrodd timoedd cyfreithiol Evan Chandler a Jackson ati i ddod i gytundeb ariannol ond aflwyddiannus fu'r ymdrechion; Chandler ddechreuodd y trafodaethau ond gwnaeth Jackson nifer o wrth-gynigion. Yna dywedodd Jordan Chandler wrth seiciatrydd and yn hwyrach wrth yr heddlu, ei fod ef a Jackson wedi bod yn cusanu, hunan-leddfu ac wedi cael rhyw geneuol yn ogystal â darparu disgrifiad manwl o'r hyn yr honnai oedd genitalia Jackson i'r heddlu.[17]

Dechreuwyd ar ymchwiliad swyddogol, gyda mam Jordan Chandler yn sicr nad oedd Jackson wedi cyflawni unrhyw drosedd. Archwiliwyd Ransh Neverland; gwadodd nifer o blant ac aelodau o'i deulu fod Jackson yn bedoffilydd. Taflwyd cysgod pellach ar gymeriad Jackson pan gyhuddodd ei chwaer hŷn, La Toya Jackson, ef o fod yn bedoffilydd, datganiad a dynnodd yn ôl yn hwyrach. Cytunodd Jackson i gael ei archwilio tra'n noeth yn ei ransh. Roedd yr archwiliad yn angenrheidiol i weld a oedd y disgrifiad a ddarparwyd gan Jordan Chandler yn gywir. Daeth doctoriaid i'r casgliad fod peth tebygrwydd agos yno, ond nid oedd yn gwbl gywir. Gwnaeth Jackson ddatganiad cyhoeddus emosiynol am y digwyddiadau; soniodd am ei ddiniweidrwydd a beirniadodd yr hyn a ystyriai fel ymdriniaeth llawn tuedd y wasg.

Dechreuodd Jackson gymryd y poenladdwyr Valium, Xanax ac Ativan i ddelio â'r cyhuddiadau a wnaed yn ei erbyn. Erbyn Hydref 1993, roedd Jackson yn gaeth i'r cyffuriau.[18] Dirywiodd iechyd Jackson i'r fath raddau nes iddo ganslo gweddill y daith Dangerous ac aeth i glinig i ddelio â'i gaethiwed i'r cyffuriau. Achosodd straen yr achos yn ei erbyn iddo stopio bwyta a chollodd llawer o bwysau. Gyda'i iechyd yn dirywio'n gyflym, cymryd cyfeillion a chynghorwyr cyfreithiol Jackson ofal am ei amddiffyniad a'i faterion ariannol; galwant arno i ddod i gytundeb tu allan i'r llys, am eu bod yn credu na fyddai'n medru ymdopi ag achos llys faith.[19][20]

Portreadwyd Jackson yn anffafriol yn y wasg tabloid yn sgîl yr honiadau yn ei erbyn. Ar y 1af o Ionawr, 1994, daeth Jackson i gytundeb ariannol gyda'r teulu Chandler a'u tîm cyfreithiol mewn achos llys sifil gwerth $22 miliwn. Ar ôl y cytundeb, gwrthododd Jordan Chandler i barhau gydag achos troseddol yr heddlu yn erbyn Jackson. Ni ddaethpwyd ag achos yn erbyn Jackson a chaeodd y dalaith yr achos troseddol yn sgîl diffyg tystiolaeth.[21]

Yn hwyrach y flwyddyn honno, priododd Jackson Lisa Marie Presley, merch Elvis Presley. Cyfarfu'r ddau am y tro cyntaf ym 1975 yn yr MGM Grand a daethant i gysylltiad unwaith eto trwy ffrind a oedd ganddynt yn gyffredin ar ddechrau 1993. Cadwodd y ddau mewn cysylltiad ar y ffôn yn ddyddiol. Pan aeth y cyhuddiadau o gam-drin plant yn gyhoeddus, daeth Jackson yn ddibynnol ar Lisa Marie am gefnogaeth emosiynol; pryderai hi'n fawr am ei iechyd gwael a'i gaethiwed i gyffuriau.[18] Esboniodd Lisa Marie, "I believed he didn't do anything wrong and that he was wrongly accused and yes I started falling for him. I wanted to save him. I felt that I could do it."[22] Mewn galwad ffôn a wnaeth ef iddi, disgrifiodd fod Jackson yn uchel, yn aneglur ac yn lledrithiol.[19] Yn fuan ar ôl hyn, ceisiodd berswadio Jackson i ddod i gytundeb allan o'r llys a mynd i gael help am ei gaethiwed i gyffuriau. Gwnaeth ef y ddau beth hyn. Tua Thymor yr Hydref 1993, gofynnodd Jackson i Lisa-Marie ei briodi, gan ddweud "If I asked you to marry me, would you do it?".[18] Priododd y ddau yn gyfrinachol yng Ngweriniaeth Dominica gan wadu'r honiad eu bod wedi priodi deufis ynghynt. Yn ei geiriau hi, roedd y briodas yn "a married couple's life ... that was sexually active".[23] Ar y pryd, soniai'r papurau tabloid fod y briodas yn gynllwyn i geisio gwella delwedd gymdeithasol Jackson yn sgîl yr honiadau blaenorol o gam-driniaeth rywiol.[24] Ysgarodd y ddau ddwy flynedd yn ddiweddarach ond parhaodd y ddau'n ffrindiau da.[25]

1995–1999: HIStory, ei ail briodas a dod yn dad golygu

 
Un o'r amryw gerfluniau a leolwyd ledled Ewrop er mwyn hyrwyddo'r daith HIStory. Dengys y cerflun wisg greadigol Jackson, sydd wedi'i ddylanwadu gan steil filwrol

Ym 1995, cyfunodd Jackson ei gatalog Northern Songs gydag adran gyhoeddi Sony, gan greu Sony/ATV Music Publishing. Cadwodd Jackson berchnogaeth o hanner y cwmni, gan ennill $95 miliwn ymlaen llaw yn ogystal â hawliau i fwy fyth o ganeuon.[26] Yna rhyddhaodd yr albwm ddwbl HIStory: Past, Present and Future, Book I. Roedd y ddisgen gyntaf, "HIStory Begins", yn albwm o bymtheg o'r traciau mwyaf poblogaidd, ac yn ddiweddarach cafodd ei ryddhau fel Greatest Hits — HIStory Vol. I yn 2001. Roedd yr ail ddisgen, "HIStory Continues", yn cynnwys pymtheg cân newydd. Aeth yr albwm yn syth i rif un o'r siartiau a dyma oedd yr albwm aml-ddisg a werthodd orau erioed, gyda 18 miliwn o gopïau wedi eu gwerthu'n fyd-eang.[27] Derbyniodd HIStory enwebiad Grammy am yr albwm orau.[28]

Y sengl gyntaf a ryddhawyd o'r albwm oedd "Scream/Childhood", a ganwyd ac a berfformiwyd gyda chwaer ieuengaf Jackson, Janet. Aeth y sengl yn syth i rif pump y Siart Billboard Hot 100, a derbyniodd enwebiad Grammy am y "Cydweithrediad Pop Lleisiol Gorau". "You Are Not Alone" oedd yr ail sengl i gael ei rhyddhau o HIStory; dyma oedd y gân gyntaf erioed i fynd yn syth i rif un ar y siart Billboard Hot 100. Gwelwyd y sengl fel llwyddiant artistig a masnachol, gan ennill enwebiad Grammy am y "Perfformiad Lleisiol Pop Gorau". Ar ddiwedd 1996, rhuthrwyd Jackson i'r ysbyty ar ôl iddi gael ei daro'n wael tra'n ymarfer ar gyfer perfformiad teledu; achoswyd y gwaeledd gan banig a achoswyd gan straen.[29] "Earth Song" oedd y drydedd sengl i gael ei rhyddhau o HIStory, a chyrhaeddodd frig y siart Brydeinig am chwe wythnos dros gyfnod y Nadolig ym 1995; gwerthodd miliwn o gopïau, gan wneud y gân yr un fwyaf llwyddiannus yn y DU.

Dechreuodd Daith Ryngwladol HIStory ar y 7fed o Fedi, 1996, gan orffen ar y 15fed o Hydref, 1997. Perfformiodd Jackson mewn 82 o gyngherddau mewn 58 dinas gerbron 4.5 miliwn o'i gefnogwyr. Daeth y sioe, a ymwelodd â phum cyfandir a 35 o wledydd y daith fwyaf llwyddiannus i Jackson o ran nifer o bobl a wyliodd y sioe. Nid yw wedi bod ar daith ryngwladol ers hynny, er ei fod yn bwriadu cyfres o gyngherddau yng Nghanolfan O2 yn Llundain ym mis Gorffennaf, 2009.[30] Tra ar y daith, priododd Jackson nyrs dermatolegol o'r enw, Deborah Jeanne Rowe, a chafodd fab ganddi, Michael Joseph Jackson, Jr. (a elwir hefyd yn "Prince"), a merch, Paris Michael Katherine Jackson.Cyfarfu'r ddau am y tro cyntaf yng nghanol y 1980au, pan ddioddefai Jackson o vitiligo. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn ymdrin â'i afiechyd yn ogystal â darparu cefnogaeth emosiynol iddo. Datblygodd y ddau gyfeillgarwch clòs a dechreuodd y ddau ganlyn.[31] Yn wreiddiol nid oedd yn fwriad ganddynt briodi, ond yn sgîl beichiogrwydd cyntaf Rowe, fe'u perswadiwyd i wneud hynny gan fam Jackson.[32] Ysgarodd y ddau ym 1999 gyda Rowe yn rhoi gofal llwyr am y plant yn nwylo Jackson. Maent yn parhau i fod yn ffrindiau.

Ym 1997, rhyddhaodd Jackson Blood on the Dance Floor: HIStory in the Mix, a gynhwysai gymysgedd o senglau llwyddiannus o HIStory a phum cân newydd. Erbyn 2007, roedd 6 miliwn o gopïau wedi'u gwerthu, a chyrhaeddodd rif un yn y Deyrnas Unedig. Yn yr Unol Daleithiau, derbyniodd yr albwm ddisgen platinwm, ond dim ond i rif 24 yr aeth yn y siart. Amcangyfrifodd Forbes ei incwm blynyddol ym 1996 fel $35 miliwn a $20 miliwn ym 1997.[33]

Trwy gydol fis Mehefin 1999, bu Jackson ynghlwm â nifer o ddigwyddiadau elusennol. Ymunodd â Luciano Pavarotti mewn cyngerdd yn Modena, yr Eidal. Roedd y sioe er budd y sefydliad elusennol "Warchild", a chododd miliwn o ddoleri tuag at ffoaduriaid Cosofo, yn ogystal ag arian ychwanegol ar gyfer plant Gwatemala.[34] Yn ddiweddarach y mis hwnnw, trefnodd Jackson gyfres o gyngherddau codi arian o'r enw "Michael Jackson & Friends" yn yr Almaen a Chorea. Rhai o'r artistiaid eraill a oedd ynghlwm â'r cyngherddau oedd Slash, The Scorpions, Boyz II Men, Luther Vandross, Mariah Carey, A. R. Rahman, Prabhu Deva Sundaram, Shobhana, Andrea Bocelli a Luciano Pavarotti. Aeth yr elw at Gronfa Blant Nelson Mandela, Y Groes Goch ac UNESCO.[35]

2000–2002: Anghydweld â'i Label Recordio, Invincible a'i Drydydd Plentyn golygu

Yn 2000, rhestrwyd Jackson yn llyfr y Guinness World Records am ei gefnogaeth i 39 elusen, mwy nag unrhyw ddiddanwr neu berfformiwr arall.[36] Ar y pryd, roedd Jackson yn aros am y trwyddedi i'w albymau i gael eu dychwelyd iddo; byddai hyn yn ei alluogi i hyrwyddo'i hen ddeunydd fel y mynnai gan atal Sony rhag cael cyfran o'r elw. Disgwyliai Jackson i hyn ddigwydd ar ddechrau'r mileniwm newydd. Fodd bynnag, yn sgîl y mân brint a'r amryw gymalau yn ei gytundeb, mae'r dyddiad hwn yn parhau i fod flynyddoedd i ffwrdd. Dechreuodd Jackson ymchwiliad, a daeth i'r amlwg fod y cyfreithiwr a gynrychiolodd Jackson adeg y cytundeb hefyd yn cynrychioli Sony, gan greu gwrthdaro o ran buddiannau. Hefyd, am nifer o flynyddoedd roedd Sony wedi bod yn ceisio prynu holl gyfran Jackson yn eu menter catalog cerddorol. Pe bai gyrfa Jackson neu ei sefyllfa ariannol yn dirywio, byddai'n rhaid iddo werthu ei gatalog. O ganlyniad, roedd gan Sony fodd o elwa pe bai gyrfa Jackson yn methu.[37] Llwyddodd Jackson i ddefnyddio'r wybodaeth hon er mwyn ei alluogi i ddiweddu ei gytundeb yn gynnar.[38] Ychydig cyn rhyddhau "Invincible", hysbysodd Jackson bennaeth Sony Music Entertainment, Tommy Mottola, ei fod yn gadael Sony.[38] O ganlyniad, canslwyd rhyddhau pob sengl, ffilmio fideos a hyrwyddo a oedd yn ymwneud â'r albwm Invincable. Yng Ngorffennaf 2002, honodd Jackson fod Mottola yn "ddiafol" ac yn berson "hiliol" nad oedd yn rhoi cefnogaeth o artistiaid Affricanaidd-Americanaidd, ond yn hytrach yn eu defnyddio er mwyn ei les personol.[38] Cyhuddodd Mottola o alw ei gyd-weithiwr Irv Gotti yn "fat nigger".[39] Gwadodd Sony'r honiadau eu bod wedi methu hyrwyddo'r albwm "Invincible" gyda digon o egni, gan fynnu bod Jackson wedi gwrthod gwneud taith yn yr Unol Daleithiau.[40]

Chwe blynedd ar ôl ei albwm stiwdio diwethaf ac wedi iddo dreulio'r rhan fwyaf o ail hanner y 1990au i ddechrau'r mileniwm newydd allan o olwg y cyhoedd, rhyddhaodd Jackson Invincible yn Hydref 2001. Er mwyn hyrwyddo'r albwm, cynhaliwyd dathliad Penblwydd 30ain yn Madison Square Garden ym Medi 2001 i ddynodi 30ain mlynedd y canwr fel artist solo. Ymddangosodd Jackson ar lwyfan gyda'i frodyr am y tro cyntaf ers 1984.[41]. Cafwyd perfformiadau hefyd gan Mýa, Usher, Whitney Houston, 'N Sync, a Slash, ynghyd ag artistiaid eraill.[42] Yng ngoleuni ymosodiadau Medi'r 11eg, 2001, helpodd Jackson drefnu'r gyngerdd United We Stand: What More Can I Give yn Stadiwm RFK yn Washington D.C.. Darlledwyd y gyngerdd ar yr 21ain o Hydref, 2001 ac roedd yn cynnwys perfformiadau gan ddwsinau o artistiaid mawrion, gan gynnwys Jackson, a berfformiodd ei gân "What More Can I Give" i orffen y sioe[37]. Roedd Invincible yn llwyddiant masnachol gan fynd i frig y siartiau mewn 13 o wledydd a chan werthu tua 10 miliwn o gopïau yn fyd-eang. Fodd bynnag, roedd gwerthiant yn gymharol isel o'i gymharu â'i albymau blaenorol, o ganlyniad i raddau i ddiwydiant pop a oedd yn dirywio, diffyg hyrwyddo, dim taith ryngwladol i gyd-fynd â'r albwm a'r anghydfod â'i label recordio. Rhyddhawyd tair sengl o'r albwm, "You Rock My World", "Cry" a "Butterflies".

Ganwyd trydydd plentyn Jackson, Prince Michael Jackson II (a elwir yn Blanket hefyd) yn 2002.[43] Nid yw enw'r fam wedi cael ei ryddhau gan Jackson, ond dywedodd fod y plentyn wedi ei genhedlu drwy ffrwythloni artiffisial gyda mam fenthyg a'i gelloedd sberm ei hun.[44] Yn Nhachwedd y flwyddyn honno, daeth Jackson a'i fab newydd anedig i falconi ei ystafell mewn gwesty ym Merlin, tra bod ei gefnogwyr yn ei wylio o'r llawr oddi tano. Gan ddal y plentyn yn ei fraich dde, a chyda darn o ddefnydd llac yn gorchuddio wyneb y plentyn, daliodd Jackson y plentyn am rai eiliadau dros ochr y balconi, a oedd ar y pedwerydd llawr. Arweiniodd hyn at feirniadaeth fawr ohono yn y wasg ac yn ddiweddarach, ymddiheuriodd Jackson am y digwyddiad, gan ei alw'n "a terrible mistake".[45]

2003–2007: Rhaglen Ddogfen, Achos Llys a Busnesau golygu

Yn 2003, rhyddhaodd Sony gasgliad o ganeuon rhif un Jackson ar crynoddisg a DVD. Aeth yr albwm i rif 13 yn y siart Americanaidd. Tua'r un cyfnod, cyhuddwyd Jackson o saith achos o gam-drin plant yn rhywiol a dau gyhuddiad o roi alcohol i blentyn er mwyn gallu cyflawni trosedd; roedd y cyhuddiadau i gyd yn ymwneud ag un bachgen, Gavin Arvizo, a oedd o dan 14 mlwydd oed pan ddigwyddodd y drosedd honedig.[46] Yn gynt y flwyddyn honno, dangosodd rhaglen ddogfen gan Granada Television o'r enw Living with Michael Jackson y canwr yn dal dwylo ac yn trafod trefniadau cysgu gydag Arvizo. Yn yr un rhaglen, gwelwyd Jackson yn gwario symiau enfawr o arian, yn ymddangosiadol ddi-hid, pan wariodd $6 miliwn mewn un siop.[47]

 
Cefnogwyr Jackson yn dangos eu cefnogaeth iddo yn 2003

Gwadodd Jackson y cyhuddiadau o gam-drin rhywiol, gan ddweud nad oedd unrhyw beth rhywiol pan fyddai plant yn aros gydag ef. Amddiffynnodd ei ffrind Elizabeth Taylor ef ar y rhaglen deledu Larry King Live, gan ddweud eu bod "were in the bed, watching television. There was nothing abnormal about it. There was no touchy-feely going on. We laughed like children and we watched a lot of Walt Disney. There was nothing odd about it."[48] Yn ystod yr ymchwiliad, archwiliwyd proffil Jackson gan arbenigwr iechyd meddyliol o'r enw Dr. Stan Katz; treuliodd y doctor oriau gyda'r cyhuddwr hefyd. Yn ôl asesiad Katz, roedd Jackson wedi mynd yn ôl i gyfnod meddyliol plentyn 10 mlwydd oed, ac nad oedd ei broffil yn cydymffurfio â phroffil pedoffilydd.

Gyda'i achos llys ar y gorwel, daeth Jackson yn ddibynnol ar morffin a Demerol, dibyniaeth a oroesodd yn ddiweddarach.[49] Dechreuodd yr achos llys Y Bobl v. Jackson yn Santa Monica, California dwy flynedd ar ôl dwyn yr achos yn ei erbyn. Parodd yr achos am bum mis, tan ddiwedd mis Mai 2005. Yn ystod yr achos, dioddefodd Jackson salwch yn gysylltiedig â straen a chollodd llawer o bwysau, a newidiodd ei ymddanggosiad.[50]. Ym mis Mehefin, cafwyd Jackson yn ddi-euog o bob cyhuddiad yn ei erbyn.[51]. Yn dilyn yr achos llys, ad-leolodd Jackson i ynys yn y Gwlff Persiaidd, Bahrain fel gwestai i Sheikh Abdullah.[52].

Rhyddhaodd Sony BMG Visionary: The Video Singles i'r farchnad Ewropeaidd: cyfres o 20 o'i senglau mwyaf llwyddiannus o'r 1980au a'r 1990au. Daeth adroddiadau am drafferthion ariannol Jackson i'r amlwg yn amlach yn 2006, wedi i'r prif dŷ ar Ransh Neverland gael ei gau er mwyn arbed arian.[53] Un mater ariannol amlwg iddo oedd benthyciad o $270 miliwn a wnaed iddo yn erbyn ei ddaliadau cyhoeddi cerddoriaeth. Ar ôl oedi gyda'r ad-daliadau, symudwyd y ddyled o Bank of America i arbenigwyr dyledion Fortress Investments. Byddai pecyn newydd a gynigwyd gan Sony yn golygu y gallai Jackson fenthyg $300 miliwn ychwanegol a lleihau'r gyfradd llog a oedd yn ddyladwy ar y ddyled, tra'n rhoi'r opsiwn i Sony brynu hanner cyfran Jackson yn y cwmni cyhoeddi (gan adael Jackson gyda chyfran o 25%).[54]. Cytunodd Jackson i becyn ail-ariannu Sony, er na wnaed y manylion yn gyhoeddus. Er gwaethaf y benthyciadau hyn, yn ôl Forbes, roedd Jackson yn parhau i wneud cymaint â $75 miliwn y flwyddyn o'i bartneriaeth cyhoeddi gyda Sony yn unig.[55].

Un o ymddangosiadau cyntaf Jackson ers ei achos llys oedd ymweliad i Lundain yn Nhachwedd 2006, pan aeth i swyddfeydd Llundain o'r Guiness World Records. Derbyniodd wyth record, yn eu mysg "First Entertainer to Earn More Than 100 Million Dollars in a Year" a "Most Successful Entertainer of All Time".[56] Rhoddwyd Gwobr Deiamwnt iddo ar y 15fed o Dachwedd, 2006 yn y World Music Awards, am werthu dros 100 miliwn o albymau.[57] Yn dilyn marwolaeth James Brown, dychwelodd Jackson i'r UDA i dalu teyrnged iddo. Ynghyd â 8,000 o bobl eraill, talodd Jackson deyrnged iddo mewn angladd gyhoeddus ar y 30ain o Ragfyr, 2006.[58] Ar ddiwedd 2006, cytunodd Jackson i rannu gofal am ei ddau blentyn cyntaf gyda'i gyn-wraig Debbie Rowe.[59] Prynodd Jackson a Sony Famous Music LLC wrth Viacom yn 2007. Rhoddodd y cytundeb hwn hawliau iddo i ganeuon gan Eminem, Shakira a Beck, ymysg eraill.[60] Dywedodd Jackson ei hun:

"I've been in the entertainment industry since I was six-years-old... As Charles Dickens says, "It's been the best of times, the worst of times." But I would not change my career... While some have made deliberate attempts to hurt me, I take it in stride because I have a loving family, a strong faith and wonderful friends and fans who have, and continue, to support me."

[61]

2008–presennol: Cerrig Milltir, Cartrefi a Dychwelyd i Berfformio'n Fyw golygu

 
Ransh Neverland oedd prif gartref Jackson o 1988 tan 2005. Tynnwyd y llun o'r awyr o ardal y parc thema

.Rhyddhaodd Jackson albwm disg-dwbl Thriller 25, sef fersiwn i ddathlu 25 mlynedd ers i Thriller gael ei rhyddhau. Cynhwysai'r set naw cân o Thriller, ail-gymysgfeydd a chân newydd o'r enw "For All Time". Rhyddhawyd dwy sengl i lwyddiant cymhedrol; "The Girl Is Mine 2008" a "Wanna Be Startin' Somethin' 2008". Roedd Thriller 25 yn llwyddiant masnachol, gan gyrraedd rhif un mewn wyth gwlad yn Ewrop. Cyrhaeddodd rif dau yn yr Unol Daleithiau, rhif 3 yn y DU ac yn neg siartiau 30 gwlad gwahanol.[62] Ar ôl deuddeg wythnos, gwerthodd 3 miliwn o gopïau yn fyd-eang. Gyda dyfodiad noson Calan Gaeaf ym mis Tachwedd, treuliodd Thriller 10 wythnos ar frig siart catalog yr Unol Daleithiau yn ddi-dor.

I ddathlu penblwydd Jackson yn 50, rhyddhaodd Sony BMG albwm amrywiol o'r enw King of Pop mewn nifer o wledydd. Roedd yr albymau hyn yn cynnwys caneuon o grŵp Jackson ac o'i yrfa unigol, â'r holl ganeuon wedi cael eu dewis gan ei gefnogwyr. Roedd gan yr albymau rhestr wahanol o ganeuon arnynt, yn dibynnu ar sut roedd ei gefnogwyr wedi pleidleisio.[63]. Er na chafodd ei ryddhau yn yr Unol Daleithiau, cyrhaeddodd King of Pop y brig yn y mwyafrif o wledydd lle cafodd ei ryddhau.

Ystyriodd Fortress gau Ransh Neverland er mwyn ad-dalu benthyciad a wnaed i Jackson ar yr eiddo, ond yn y pen draw, gwerthwyd y ddyled i Colony Capital LLC. Ym mis Tachwedd, trosglwyddodd Jackson teitl Ransh Neverland i Sycamore Valley Ranch Company LLC. Nid yw'n glir a yw Jackson yn meddu ar ran o'r eiddo. Mae Sycamore Valley Ranch yn fenter ar y cyd rhwng Jackson a Colony Capital LLC — cliriwyd dyled Jackson a gwnaeth $35 miliwn o'r fenter.[64][65].

O'r 8fed o Orffennaf, 2009 tan y 24ain o Chwefror, 2010, bydd Jackson yn perfformio 50 cyngerdd i dros filiwn o bobl yn Arena O2 yn Llundain. Yn ôl gwefan Jackson, roedd gwerthiant y tocynnau ar gyfer y cyngherddau wedi torri nifer o recordiau. Yn ystod cynhadledd flaenorol i'r wasg, gwnaeth Jackson awgrymiadau am ymddeol.[66] Dywedodd Randy Phillips, llywydd ac uwch-gyfarwyddwr AEG Live y byddai'r 10 cyngerdd cyntaf yn ennill tua £50 miliwn i'r canwr.[67] Ar yr 16eg o Fai 2009, honnodd papur newydd The Sun fod gan Jackson gancr y croen ond y byddai'n parhau gyda'i berfformiadau serch hynny. Dywedwyd fod modd trin y cancr ac nad oedd yn farwol.[68]

Ei farwolaeth golygu

Bu farw Michael Joseph Jackson ar y 25ain o Fehefin 2009 wedi iddo ddioddef o drawiad calon yn ei dŷ a oedd yn ei rentu yn Bel Air, galwyd y frigad dân i'w gartref am hanner dydd. Cyrhaeddodd i ysbyty UCL mewn coma trwm lle cyhoeddwyd marwolaeth y canwr 50 oed.

Ei Arddull Cerddorol golygu

Themâu a genres golygu

Dywed Steve Huey o Allmusic mai natur amryddawn Jackson sydd wedi ei alluogi i arbrofi gyda themâu a mathau gwahanol o gerddoriaeth trwy gydol ei yrfa gerddorol.[69] Mae cerddoriaeth Jackson wedi amrywio o gerddoriaeth ddawns Motown i ganeuon serch i gerddoriaeth techno modern sy'n ymgorffori rhythmau ffync a gitâr roc caled. Yn wahanol i nifer o artistiaid, ni ysgrifennodd Jackson ei ganeuon ar bapur.[70]. Yn hytrach, byddai'n recordio'i lais ar recordydd sain; wrth recordio, byddai'n canu caneuon o'i gôf.[71][72] Sylwodd nifer o feirniaid cerddorol fod "Off the Wall" yn gyfuniad o ffync, pop-disco, soul, roc ysgafn, jazz a chaneuon serch.[69][73][74] Mae'r enghreifftiau amlycaf yn cynnwys y gân serch "She's out of My Life", a'r ddwy gân disco "Workin' Day and Night" a "Get on the Floor".[73]

Yn ôl Huey, mireiniodd Thriller gryfderau Off the Wall: roedd y traciau dawns a roc yn fwy ymosodol, tra bod y caneuon pop a'r caneuon serch yn feddalach ac yn fwy emosiynol.[75] Dywedodd Christopher Connelly o Rolling Stone fod Jackson wedi datblygu ei gysylltiad hir-dymor â themâu fel paranoia a delweddaeth dywyll. Nododd Stephen Erlewine o Allmusic fod hyn yn amlwg yn y caneuon "Billie Jean" a "Wanna Be Startin' Somethin'".[76] Yn "Bille Jean", cana Jackson am ffan obsesiynol sy'n honni mai ef yw tad ei phlentyn..[75] Yn "Wanna Be Startin' Somethin'" mae'n dadlau yn erbyn clecs a'r cyfryngau.[77] Daeth y gân roc yn erbyn trais "Beat It" yn deyrnged i West Side Story. Dywedodd Huey hefyd fod y gân "Thriller" yn amlygu diddordeb Jackson ym myd y goruwchnaturiol, thema a welwyd yn ngweithiau hwyrach Jackson hefyd.[75] Ym 1985, ysgrifennodd Jackson yr anthem elusennol "We Are the World"; yn hwyrach, daeth themâu dyngarol yn rhan allweddol o'i fywyd a'i gerddoriaeth.[75]

Yn Bad, gwelir y cysyniad o gariad meddiannol yn y gân roc "Dirty Diana".[78] Roedd y prif sengl "I Just Can't Stop Loving You" yn gân serch traddodiadol, tra bod "Man in the Mirror", yn gân serch anthematig o gyffesu a chymodi.[79] Roedd "Smooth Criminal" yn atgof o ymosodiad gwaedlyd, trais a llofruddiaeth debygol.[79] Dywed Stephen Erlewine o Allmusic fod yr albwm Dangerous yn cyflwyno Jackson fel unigolyn cwbl gyferbyniol. Dywed fod yr albwm yn fwy amrywiol na Bad, am ei fod yn apelio at y gynulleidfa ddinesig tra'n denu'r dosbarth canol gyda chaneuon anthematig fel "Heal the World".[80] Dyma yw albwm cyntaf Jackson lle mae'n rhoi blaenoriaeth i anghyfiawnderau cymdeithasol; mae "Why You Wanna Trip on Me", er enghraifft, yn protestio yn erbyn newyn, AIDS, digartrefedd a chyffuriau. Mae Dangerous hefyd yn cynnwys caneuon am wrthdaro rhywiol, fel "In the Closet", sy'n gân serch am ddyhead a gwadiad, unigrwydd a chysylltiad, preifatrwydd a datguddiad. Mae'r brif gân yn parhau â'r thema o gariad meddiannol a dyheadau na ellir eu rheoli. Mae'r ail hanner o'r albwm yn cynnwys anthemau mewnblyg, pop-gristnogol megis "Will You Be There", "Heal the World" a "Keep the Faith"; mae'r caneuon hyn yn dangos yn ceisio arddangos ei frwydrau a'i bryderon personol; Yn y gân serch "Gone Too Soon", mae Jackson yn talu teyrnged i'w ffrind Ryan White a'r rheini sy'n dioddef o AIDS.[81]

Mae HIStory yn creu awyrgylch o baranoia.[82] Mae cynnwys yr albwm yn ffocysu ar galedi a brwydrau cyhoeddus Jackson yn y cyfnod cyn cafodd yr albwm ei chynhyrchu. Yn y caneuon "Scream" a "Tabloid Junkie", ynghyd â'r gân serch R&B "You Are Not Alone", ymateba Jackson yn erbyn anghyfiawnder a'r unigrwydd a deimla, gan gyfeirio llawer o'i ddicter at y cyfryngau.[83] Yn y gân serch mewnblyg "Stranger in Moscow", sonia Jackson am ei "fall from grace", tra bod caneuon fel "Earth Song", "Childhood", "Little Susie" a "Smile" yn ganeuon pop operatig. Yn y gân "D.S.", mae Jackson yn ymosod yn eiriol ar Tom Sneddon. Disgrifia Sneddon fel gŵr hiliol, anghymdeithasol a oedd eisiau "get my ass, dead or alive". Wrth ymateb i'r gân, dywedodd Sneddon, "I have not—shall we say—done him the honor of listening to it, but I’ve been told that it ends with the sound of a gunshot".[84] Gwelodd Invincible Jackson yn cydweithio'n agos gyda'r cynhyrchydd Rodney Jerkins. Mae'n record sydd â sain ddinesig mewn caneuon fel "Cry" a "The Lost Children", gyda chaneuon serch fel "Speechless", "Break of Dawn" a "Butterflies" a chaneuon hip hop, pop a rap wedi'u cymysgu yn "2000 Watts", "Heartbreaker" a "Invincible".

Ei Arddull Lleisiol golygu

Mae Jackson wedi bod yn canu ers ei fod yn blentyn a thros amser mae ei lais a'i arddull lleisiol wedi newid yn sylweddol, naill ai drwy lencyndod neu o ddewis personol i weddu ei lais i'r themâu a'r mathau o gerddoriaeth mae ef eisiau cyfleu. Rhwng 1971 a 1975, roedd llais Jackson wedi "descended ever so slightly from boy soprano to his current androgynous high tenor". Yng nghanol y 1970au, defnyddiodd y canwr rhyw fath o "rug-lleisiol" ("vocal hiccup") fel a welir yn "Shake Your Body (Down to the Ground)". Pwrpas y rhug, a oedd yn debyg i lyncu aer, oedd cyfleu emosion penodol, boed yn gyffro, tristwch neu ofn. Pan ryddhawyd Off the Wall ar ddiwedd y 1970au, gwyddai nifer am ddoniau lleisiol Jackson; disgrifiodd Allmusic ef fel "blindingly gifted vocalist". Bryd hynny hefyd, cymharodd Rolling Stone ei lais i "breathless, dreamy stutter" Stevie Wonder. Roeddent hefyd wedi dadansoddi gan ddweud fod "Jackson's feathery-timbered tenor is extraordinary beautiful. It slides smoothly into a startling falsetto that's used very daringly". Rhyddhawyd Thriller ym 1982 a chredai Rolling Stone fod Jackson yn canu mewn "llais oedolyn llawn" a oedd yn cynnwys "ychydig o dristwch".

Pan ryddhawyd "Bad" ym 1987, gwelwyd llais mwy gwrol yn y penillion a llais ysgafnach yn y cytganau.[85] Ar droad y 1990au, rhyddhaodd Jackson yr albwm mewn-weledol a gwrthgyferbyniol, "Dangerous", lle defnyddiodd ei arddull lleisiol i ddwysâu'r themâu y soniwyd amdanynt yn flaenorol. Dywedodd The New York Times ei fod yn "he gulps for breath, his voice quivers with anxiety or drops to a desperate whisper, hissing through clenched teeth" a bod ganddo "wretched tone" ar rhai o'i ganeuon.[86] Wrth ganu am frawdgarwch neu hunan-ddelwedd, byddai'r canwr yn troi ar leisio meddal.[86] Roedd "In the Closet" yn cynnwys anadlu trwm a rap ar y gân "In the Closet". Wrth sôn am "Invincible", dywedodd cylchgrawn Rolling Stone fod Jackson dal i berfformio'n "exquisitely voiced rhythm tracks and vibrating vocal harmonies".[87] Crynhodd Nelson George arddull lleisiol Jackson fel, "The grace, the aggression, the growling, the natural boyishness, the falsetto, the smoothness—that combination of elements mark him as a major vocalist".[88]

Ei ddylanwad golygu

 
Seren Jackson ar Lwybr Enwogion Hollywood

Oherwydd ei ddylanwad sylweddol ar gerddoriaeth a diwylliant ledled y byd, cafodd Jackson ei gynnwys ar Lwybr Enwogion Hollywood. Lleihaodd ffiniau hiliol, trawsnewidiodd y fideo cerddorol a bu'n geffyl blaen o ran cerddoriaeth bop yn ei wlad ei hun. Mae cerddoriaeth Jackson, ei sain gerddorol unigryw a'r arddull lleisiol wedi dylanwadu ar artistiaid hip hop, pop ac R&B, gan gynnwys Mariah Carey,[89]. Usher,[90] Britney Spears,[89]. Justin Timberlake [37] ac R. Kelly.[88] Am gyfnodau helaeth o'r yrfa, roedd ganddo ddylanwad rhyngwladol ar y genhedlaeth iau na welwyd gan artistiaid eraill, yn sgîl ei gyfraniadau cerddorol a dyngarol.

Trwy gydol ei yrfa, derbyniodd nifer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys Gwobr World Music fel Artist Pop Gwrywaidd Cerddoriaeth y Mileniwm ac Artist y Ganrif wrth Wobrau American Music. Mae ef wedi cael ei gynnwys dwy waith yn Oriel yr Anfarwolion Roc a Rôl, unwaith fel aelod o'r Jacksons ac yn ddiweddarach fel artist unigol yn 2001. Mae ei wobrau eraill yn cynnwys nifer o recordiau Guinness World Records (wyth yn 2006 yn unig), 13 Gwobr Grammy, 13 sengl rhif un yn ei yrfa unigol - sy'n fwy nag unrhyw artist gwrywaidd arall erioed - gyda gwerthiant o 750 miliwn o unedau'n fyd eang.

Caiff Jackson ei bortreadu fel "an unstoppable juggernaut, possessed of all the tools to dominate the charts seemingly at will: an instantly identifiable voice, eye-popping dance moves, stunning musical versatility and loads of sheer star power".[91] Erbyn canol y 1980au, disgrifiodd cylchgrawn Time Jackson fel "the hottest single phenomenon since Elvis Presley".[92] Erbyn 1990, roedd Vanity Fair eisoes yn cyfeirio at Jackson fel yr artist mwyaf poblogaidd yn hanes adloniant.[93] Galwodd Tom Utley o'r Daily Telegraph ef " (an) extremely important figure in the history of popular culture" gan ddweud ei fod yn "athrylith".[94] Amcangyfrifir iddo wneud $500 miliwn o'i recordiadau unigol a'i fideos cerddorol, ei gyngherddau a'i hysbysebion; cred rhai sylwebyddion y gallai ei gatalogau cerddorol fod yn werth bilynau o ddoleri. Caiff ei gyfeirio ato fel un o ddynion enwocaf y byd ac mae hyn, ynghyd â'i fywyd personol cyhoeddus iawn a'i ei yrfa lwyddiannus, wedi ei wneud yn rhan o'n diwylliant cyfoes am bron i bedwar degawd.[95][96]

Disgograffiaeth golygu

Ffilmiau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan VH1 Archifwyd 2008-09-15 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd08-03-2009
  2. Taraborrelli, p. 20–22
  3. [1] Archifwyd 2008-01-02 yn Archive.is The Recording Academy. Adalwyd 11-03-2009
  4. [2] Archifwyd 2007-12-02 yn y Peiriant Wayback. Reuters. Adalwyd 11-03-2009
  5. "Michael Jackson Opens Up" Archifwyd 2009-05-02 yn y Peiriant Wayback. CBS. Adalwyd 11-03-2009
  6. "Dancing Feet of Michael Jackson" The New York Times. Adalwyd 11-03-2009
  7. Taraborrelli, p. vii
  8. Michael Jackson Bad World Tour Dates Archifwyd 2008-05-17 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 14-03-2009
  9. Richard Harrington (12-01-1988) Washinton Post Archifwyd 2009-09-03 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 14-03-2009
  10. For Jackson, scandal could spell financial ruin USAToday.com. Adalwyd 14-03-2009
  11. Yahoo 14-11-2006 Archifwyd 2011-05-27 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 14-03-2009
  12. [Jackson, Michael. Llyfryn HIStory. Sony BMG. td 3
  13. [Jel D. Lewis Jones. "Michael Jackson, the king of pop"]. Amber Books Publishing, 2005 td.295
  14. Blacks Who Give Something Back Ebony Adalwyd 14-03-2009
  15. [ Taraborrelli, p. 477–478 ]
  16. Taraborrelli, p. 485–486
  17. Taraborrelli, p. 496–498
  18. 18.0 18.1 18.2 Taraborrelli, td. 518–520
  19. 19.0 19.1 Taraborrelli, td. 524–528
  20. Taraborrelli, td. 514–516
  21. Taraborrelli, td. 540–545
  22. Taraborrelli, td. 510
  23. Taraborrelli, td. 562–564
  24. "She's Out Of His Life" CNN 18-01-2006. Adalwyd 14-03-2009
  25. Taraborrelli, td. 580–581
  26. Recording Industry Association of America. Archifwyd 2013-07-25 yn y Peiriant Wayback. 16-04-2008. Adalwyd 14-03-2009
  27. The Return of the King of Pop Archifwyd 2009-09-03 yn y Peiriant Wayback. MSNBC. 02-11-2006. Adalwyd 14-03-2009
  28. New Faces in Grammy Nominations New York Times, 05-01-1996. Adalwyd 14-03-2009
  29. [Taraborrelli, td. 576–577
  30. Michael Jackson shows sell out[dolen marw] Adalwyd 14-03-2009
  31. [Taraborrelli, td. 570
  32. [Taraborrelli, td. 586
  33. Gundersen, Edna (19-12-2007). "For Jackson, scandal could spell financial ruin" USAToday. Adalwyd 14-03-2009
  34. "Ricky Martin, Mariah Carey, Michael Jackson, Others To Join Pavarotti For Benefit" Archifwyd 2011-10-18 yn y Peiriant Wayback. VH1 Adalwyd 14-03-2009
  35. Slash, Scorpions, Others Scheduled For "Michael Jackson & Friends" Archifwyd 2010-02-21 yn y Peiriant Wayback. VH1. Adalwyd 14-03-2009
  36. Lewis, td. 8–9
  37. 37.0 37.1 37.2 Taraborrelli, td. 614–617
  38. 38.0 38.1 38.2 Taraborrelli, td. 610–612
  39. Jackson, Jermaine. gyda Connie Chung. Cyfweliad gyda Jermaine Jackson. Connie Chung Tonight[dolen marw]. Rhagfyr 31, 2002. Adalwyd 15-03-2009.
  40. Berkman, Oliver.Jacko gets tough: but is he a race crusader or just a falling star? guardian.co.uk 08-07-2002 Adalwyd 15-03-2009
  41. Branigan, Tania (8 Medi, 2001). "Jackson spends £20m to be Invincible". The Guardian. http://www.guardian.co.uk/uk/2001/sep/08/taniabranigan. Adalwyd 15-03-2009
  42. George, td. 50–53
  43. [3] Archifwyd 2009-03-17 yn y Peiriant Wayback. CBS Adalwyd 15-03-2009
  44. Taraborrelli, td. 599–600
  45. Michael Jackson Calls Baby-Dangling Incident A 'Terrible Mistake' MTV Adalwyd 15-03-2009
  46. Searchable database - Gold and Platinum". British Phonographic Industry. http://www.bpi.co.uk/index.asp Archifwyd 2008-04-24 yn y Peiriant Wayback.. Retrieved on 2009-01-25. ^ Taraborrelli, td. 640
  47. Gundersen, Edna (2007-02-19). "For Jackson, scandal could spell financial ruin"[dolen marw]. USA Today. Adalwyd 15-03-2009
  48. Elizabeth Taylor yn amddiffyn Jackson ar Larry King Live Adalwyd 15-03-2009
  49. Taraborrelli, td. 661
  50. Davis, Matthew (06-06-2005). "Michael Jackson health concerns".[dolen marw] BBC. Adalwyd 15-03-2009
  51. Associated Press (2005-06-13). "Michael Jackson jury reaches verdict". Adalwyd 15-03-2009
  52. "Jackson settles down to his new life in the Persian Gulf"[dolen marw]. Gulf News. 2006-01-23. Adalwyd 15-03-2009
  53. "Jackson Closes Neverland House"[dolen marw]. CBS. 2006-03-17. Adalwyd 15-03-2009
  54. "Michael Jackson Bailout Said to Be Close". New York Times. 16-04-2006. Adalwyd 15-03-2009
  55. Ackman, Dan (14-05-2005)."Really Odd Facts About Michael Jackson". Forbes. Adalwyd 15-03-2009
  56. "Jackson receives his World Records"[dolen marw]. Yahoo!. 14-11-2006. Adalwyd 15-03-2009
  57. "The return of the King of Pop" Archifwyd 2009-09-03 yn y Peiriant Wayback.. MSNBC. 02-11-2006. Adalwyd 15-03-2009
  58. "James Brown Saluted By Michael Jackson at Public Funeral Service". MTV. 30-12-2006. Adalwyd 15-03-2009
  59. "Jackson child custody battle ends"[dolen marw]. BBC. 30-09-2006. Adalwyd 15-03-2009
  60. "Michael Jackson buys rights to Eminem tunes and more" Archifwyd 2007-12-27 yn y Peiriant Wayback.. Rolling Stone. 31-05-2007. . Adalwyd 15-03-2009
  61. Talmadge, Eric. "Michael Jackson 'wouldn't change anything'". Associated Press. http://www.usatoday.com/life/music/2007-03-08-2208485574_x.htm. Adalwyd 15-03-2009
  62. Zona Musical" (yn Sbaeneg). zm.nu. http://zm.nu/detalle.php?base=zmnews&lay=cgi&form=detalle&tok4=notici&tok5=Noticias&id=17840 Archifwyd 2008-03-29 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 15-0302009
  63. "Choose The Tracks On Michael Jackson's 50th Birthday Album!" Archifwyd 2009-06-30 yn y Peiriant Wayback.. Sony BMG Music Entertainment. 20-06-2008 Adalwyd 15-03-2009
  64. "Neverland peters out for pop's Peter Pan". The Sydney Morning Herald. 13-11-2008. Adalwyd 15-03-2009
  65. "Jacko gives up Neverland ranch deed"[dolen marw]. The Press Association. 16-11-2008. Adalwyd 15-03-2009
  66. Michael Jackson’s “This Is It!” Tour Balloons to 50-Show Run Stretching Into 2010 Archifwyd 2009-09-20 yn y Peiriant Wayback. Rolling Stone. 12-03-2009. Adalwyd 15-03-2009
  67. "Michael Jackson grand finale curtain-raiser" 06-03-2009. The Times. Adalwyd 15-03-2009
  68. He’ll Beat It Archifwyd 2009-05-17 yn y Peiriant Wayback. The Sun. 16-05-2009. Adalwyd ar 16-05-2009
  69. 69.0 69.1 Huey, Steve. "Michael Jackson — Biography". Allmusic. Adalwyd 16-03-2009
  70. "Michael Jackson: Biography". Archifwyd 2009-03-02 yn y Peiriant Wayback. Rolling Stone. Adalwyd 16-03-2009
  71. Taraborrelli, td. 205–210
  72. Michael Jackson's Monster Smash". Daily Telegraph. 25-11-2007. Adalwyd 16-03-2009
  73. 73.0 73.1 Erlewine, Stephen."Off the Wall Overview"[dolen marw] Allmusic. Adalwyd 16-03-2009
  74. Holden, Stephen (1979-11-01). "Off the Wall : Michael Jackson" Archifwyd 2009-05-02 yn y Peiriant Wayback.. Rolling Stone. Adalwyd 16-03-2009
  75. 75.0 75.1 75.2 75.3 Huey, Steve."Michael Jackson — Biography". Allmusic. Adalwyd 2006-11-11.
  76. Erlewine, Stephen (2007-02-19). "Thriller Overview" Archifwyd 2008-09-06 yn y Peiriant Wayback.. Allmusic. . Adalwyd 2008-06-15
  77. Connelly, Christoper (1983-01-28)."Michael Jackson : Thriller" Archifwyd 2009-04-01 yn y Peiriant Wayback.. Rolling Stone. Adalwyd 2008-07-23
  78. Pareles, Jon (1987-09-03). "How good is Jackson's Bad?". New York Times. Adalwyd 2008-07-23.
  79. 79.0 79.1 Cocks, Jay (1987-09-14)."The Badder They Come". Archifwyd 2009-05-02 yn y Peiriant Wayback. Time. Adalwyd 2008-07-23.
  80. Erlewine, Stephen. "Dangerous Overview". Allmusic. . Adalwyd 2008-06-15.
  81. Harrington, Richard (1991-11-24). "Jackson's `Dangerous' Departures; Stylistic Shifts Mar His First Album in 4 Years". Washington Post.
  82. Stephen Erlewine Michael Jackson HIStory Overview Allmusic. Adalwyd 2008-06-15
  83. "RS HIStory" James Hunter Michael Jackson HIStory Archifwyd 2008-06-22 yn y Peiriant Wayback. Rolling Stone. 1995-08-10 Adalwyd 2008-07-23
  84. Sneddon profile" Archifwyd 2008-01-02 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 2008-07-12
  85. George, td. 23
  86. 86.0 86.1 Pareles, Jon (Tachwedd 24, 1991)."Michael Jackson in the Electronic Wilderness". The New York Times. Adalwyd 23-06-2008.
  87. Hunter, James (Rhagfyr 6, 2001)."Michael Jackson: Invincible". Archifwyd 2009-05-15 yn y Peiriant Wayback. Rolling Stone. Adalwyd Gorffennaf 20, 2008.
  88. 88.0 88.1 George, td. 24
  89. 89.0 89.1 Michael Jackson: Biography" Archifwyd 2008-02-20 yn y Peiriant Wayback.. Rolling Stone. Adalwyd 14-02-2008
  90. [Jean-Louis, Rosemary (Tachwedd 1, 2004). ["Usher, Usher, Usher: The new 'King of Pop'?". http://www.cnn.com/2004/SHOWBIZ/Music/11/01/usher/. Adalwyd 06-03-2007.] CNN.
  91. (Saesneg)Huey, Steve. "Michael Jackson — Biography". Allmusic. Adalwyd 11-11-2006.
  92. Cocks, Jay (19 Mawrth, 1984). "Why He's a Thriller". Archifwyd 2009-05-25 yn y Peiriant Wayback. Time. Adalwyd 17-03-2007.
  93. George, td. 43–44
  94. Utley, Tom (8 Mawrth, 2003). "Of course Jackson's odd — but his genius is what matters". The Daily Telegraph. Adalwyd 23-07-2008.
  95. (Saesneg)"Tom Sneddon: Dogged prosecutor".[dolen marw] BBC. (31 Ionawr, 2005). Adalwyd 14-08-2008
  96. Taraborrelli, td. 477–478

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: